Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(b), (f), (g), (j) a (k) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2017 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn cyflwyno system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf Safonau Gofal”).

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno cysyniad newydd o “gwasanaethau rheoleiddiedig” sydd wedi ei ddiffinio yn adran 2 o’r Ddeddf.

Rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig wneud cais i gofrestru i Weinidogion Cymru (wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol), gan bennu’r gwasanaeth rheoleiddiedig y mae’r person yn dymuno ei ddarparu. Cyfeirir at berson sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig fel “darparwr gwasanaeth”.

Rhaid i’r cais i gofrestru bennu’r mannau y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy. Rhaid i’r cais i gofrestru hefyd ddynodi unigolyn fel yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â phob man y mae gwasanaeth rheoleiddiedig i gael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni bod yr unigolyn yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol a’i fod yn gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol.

Yn unol â’r pwerau yn adran 27 o’r Ddeddf, mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas â gwasanaeth rheoleiddiedig, gan gynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i gael eu darparu.

Yn unol â’r pwerau yn adran 28 o’r Ddeddf, mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar unigolion cyfrifol mewn perthynas â man y mae’r unigolyn wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer troseddau os bydd darparwr gwasanaeth neu unigolyn cyfrifol yn methu â chydymffurfio â gofynion penodedig.

Mae canllawiau wedi eu cyhoeddi ynghylch sut y caiff darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol gydymffurfio â’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn (gan gynnwys sut y caiff darparwyr gyrraedd unrhyw safonau ar gyfer darparu gwasanaeth rheoleiddiedig) ac mae adran 29 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol roi sylw i’r canllawiau hyn.

Yn ogystal â gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau, mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod gofynion ar bersonau eraill: ar y “person a benodir” os bydd y darparwr gwasanaeth yn mynd yn ansolfent ac ar gynrychiolwyr personol yr ymadawedig os bydd darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn yn marw.

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau yn cynnwys diffiniadau o dermau penodol sy’n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau. Yn benodol, mae’r diffiniad o “y gwasanaeth” yn golygu, mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, fod cyfeiriad at “y gwasanaeth” yn gyfeiriad at y gwasanaeth a ddarperir mewn lleoliad penodol; mewn perthynas â gwasanaeth cymorth cartref, mae cyfeiriad at “y gwasanaeth” yn gyfeiriad at y gwasanaeth a ddarperir mewn perthynas ag ardal benodol.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn cwmpasu eithriadau. Mae’r rheoliadau yn Rhan 2 wedi eu gwneud o dan y pwerau yn adran 2(3) o’r Ddeddf sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi pethau nad ydynt, er gwaethaf Atodlen 1 i’r Ddeddf (sy’n nodi diffiniadau gwasanaethau rheoleiddiedig), i gael eu trin yn wasanaethau rheoleiddiedig. Mae rheoliadau 2 a 4 yn nodi’r sefyllfaoedd pan na fo’r ddarpariaeth o lety i gael ei thrin yn wasanaeth cartref gofal neu’n wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd yn y drefn honno. Mae rheoliad 3 yn nodi’r sefyllfaoedd pan na fo’r ddarpariaeth o ofal a chymorth i gael ei thrin yn wasanaeth cymorth cartref.

Mae Rhan 3 yn cwmpasu gofynion cyffredinol ar y darparwr gwasanaeth o ran y ffordd y darperir y gwasanaeth, gan gynnwys gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben, y trefniadau ar gyfer monitro a gwella, y cymorth sydd i gael ei ddarparu i’r unigolyn cyfrifol, y camau sydd i gael eu cymryd i sicrhau cynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth a’r polisïau a’r gweithdrefnau y mae rhaid iddynt fod yn eu lle.

Mae Rhan 4 yn cwmpasu’r gofynion o ran y camau sydd i gael eu cymryd cyn i’r darparwr gwasanaeth gytuno i ddarparu gofal a chymorth i unigolyn. Ni chaiff darparwr gwasanaeth gytuno i ddarparu gofal a chymorth oni bai ei fod yn gyntaf wedi penderfynu bod y gwasanaeth yn addas i ddiwallu anghenion yr unigolyn. Mae rheoliad 14 yn nodi’r camau y mae rhaid iddynt gael eu cymryd a’r materion y mae rhaid iddynt gael eu hystyried wrth wneud y penderfyniad hwn. Pan na fo cynllun gofal a chymorth awdurdod lleol yn ei le, mae’r camau sydd i gael eu cymryd yn cynnwys cynnal asesiad o anghenion yr unigolyn.

Mae Rhan 5 yn cwmpasu’r gofynion o ran y camau sydd i gael eu cymryd unwaith y bydd y darparwr gwasanaeth wedi cytuno i ddarparu gofal a chymorth i unigolyn. Cyn i ddarpariaeth o’r fath gychwyn, rhaid i’r darparwr lunio cynllun personol cychwynnol sydd, ymhlith pethau eraill, yn nodi sut y bydd anghenion yr unigolyn yn cael eu diwallu o ddydd i ddydd. O fewn 7 niwrnod i’r ddarpariaeth gychwyn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnal asesiad manwl o sut y gellir diwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn orau ac mae’r asesiad hwn wedyn yn sbarduno adolygiad o’r cynllun personol cychwynnol, a fydd fel arfer yn arwain at lunio cynllun mwy cynhwysfawr.

Mae Rhan 5 hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu cynlluniau personol a chadw a rhannu cofnodion o’r cynllun personol.

Mae Rhan 6 yn ymdrin â’r gofynion o ran yr wybodaeth sydd i gael ei darparu i unigolion wrth gychwyn y ddarpariaeth o ofal a chymorth. Mae rheoliad 19 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i’r wybodaeth hon fod ar ffurf canllaw ysgrifenedig ac yn nodi gofynion manwl am y canllaw, gan gynnwys ei gynnwys a’i fformat. Mae rhagor o fanylion am yr wybodaeth y disgwylir i’r canllaw ei chynnwys fel arfer i’w cael yn y canllawiau a ddyroddir o dan adran 29 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 7 yn cynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i gael eu darparu. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion cyffredinol yn ogystal â gofynion mwy manwl yn ymwneud â pharhad gofal, darparu gwybodaeth, diwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolyn a thrin unigolion â pharch a sensitifrwydd.

Mae Rhan 8 yn cynnwys gofynion penodol mewn perthynas â sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac wedi eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol. Yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i bolisïau a gweithdrefnau fod yn eu lle mewn perthynas â diogelu ac mewn perthynas â’r defnydd priodol o reolaeth ac ataliaeth, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn gosod gofynion penodol o ran y camau gweithredu sydd i gael eu cymryd os bydd honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth.

Mae Rhan 9 yn nodi gofynion ychwanegol o ran safonau gofal a chymorth nad ydynt ond yn gymwys pan fo llety wedi ei ddarparu. Mae hyn pan fo’r gwasanaeth rheoleiddiedig yn wasanaeth cartref gofal, yn wasanaeth llety diogel neu’n wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd. Mae’r gofynion hyn yn ymwneud â threfniadau i unigolion gael gafael ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill a, phan fo llety yn cael ei ddarparu i blant, â dynodi gweithiwr cyswllt.

Mae Rhan 10 yn cynnwys gofynion o ran staffio, sy’n cynnwys gofynion cyffredinol o ran defnyddio niferoedd digonol o staff ynghyd â gofynion penodol o ran defnyddio nyrsys cofrestredig i weithio mewn gwasanaeth cartref gofal o dan amgylchiadau penodol.

Mae Rhan 10 yn cynnwys gofynion penodol o ran addasrwydd unigolion sy’n gweithio yn y gwasanaeth. Mae’r gofynion hyn yn gymwys nid yn unig i gyflogeion ond hefyd i wirfoddolwyr ac i bersonau eraill sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a fyddai’n cynnwys staff asiantaeth. Mae’r gofynion addasrwydd yn cynnwys gofyniad i wybodaeth benodol a dogfennau penodol fod ar gael, fel y’u nodir yn Atodlen 1. Rhaid i bersonau a gyflogir i reoli’r gwasanaeth rheoleiddiedig fod wedi eu cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru, sef rheoleiddiwr y gweithlu, ond nid oes gofyniad mwyach, fel yr oedd o dan y Ddeddf Safonau Gofal, i reolwyr gael eu cofrestru â Gweinidogion Cymru, fel y rheoleiddiwr gwasanaethau. Rhaid i gategorïau penodol o bersonau a gyflogir i weithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig penodol sy’n darparu llety i blant hefyd fod wedi eu cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis i ddechrau eu cyflogaeth.

Ymhlith gofynion eraill a gynhwysir yn Rhan 10 mae gofynion sy’n ymwneud â chefnogi a datblygu staff, darparu gwybodaeth i staff a gweithredu gweithdrefn ddisgyblu. I sicrhau bod cyflogeion yn adrodd am achosion o gamdriniaeth i berson priodol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i weithdrefn ddisgyblu’r darparwr ddarparu y byddai methu ag adrodd yn sail dros achos disgyblu.

Mae Rhan 11 yn cynnwys gofynion penodol sy’n gymwys i ddarparwyr mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth cartref. Mae hyn yn cynnwys gofyniad bod “amserlen ymweliadau” yn cael ei llunio sy’n amlinellu’r amser a ganiateir ar gyfer pob ymweliad a’r amser a ganiateir ar gyfer teithio rhwng pob ymweliad. Mae gofyniad hefyd i’r darparwr gynnig dewis o drefniadau contractiol eraill i weithwyr gofal cartref sydd ar gontractau oriau heb eu gwarantu.

Mae Rhan 12 yn cwmpasu gofynion o ran mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar. Nid yw’r gofynion o ran mangreoedd yn rheoliadau 44 i 46 ond yn gymwys pan fo llety wedi ei ddarparu, tra bo’r gofynion yn rheoliad 47 yn gymwys ym mhob achos.

Mae’r gofynion yn Rhan 12 yn gymwys i bob darparwr gwasanaethau cartref gofal, gwasanaethau llety diogel neu wasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd. Yn benodol, mae rheoliadau 45 a 46 yn cynnwys gofynion penodol mewn perthynas ag ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir, ar gyfer oedolion a phlant, yn y drefn honno.

Mae Rhan 13 yn nodi gofynion ychwanegol sy’n gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd ond dim ond os yw’r mangreoedd sydd i gael eu defnyddio ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn dod o fewn un o dri chategori: adeilad newydd neu adeilad sydd wedi cael ei addasu; estyniad i adeilad sy’n cael ei ddefnyddio at ddiben darparu gwasanaeth presennol; adeilad a oedd yn cael ei ddefnyddio at ddiben darparu gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru gan ddarparwr gwasanaeth arall ond sydd heb ei feddiannu ar adeg cofrestriad y darparwr gwasanaeth.

Mae’r gofynion ychwanegol yn Rhan 13 yn nodi safonau amgylcheddol mwy penodol, gan gynnwys safonau o ran ystafelloedd ymolchi en-suite, maint ystafelloedd a faint o le cymunedol sydd ar gael.

Mae Rhan 14 yn nodi gofynion o ran cyflenwadau, hylendid, iechyd a diogelwch a meddyginiaethau. Bydd y gofynion hyn yn gymwys i bob gwasanaeth rheoleiddiedig, pa un a yw’n rhoi llety ai peidio.

Mae Rhan 15 yn cynnwys gofynion amrywiol ar ddarparwyr gwasanaethau, gan gynnwys gofynion o ran cadw cofnodion a gwneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ac i gyrff eraill. Mae Atodlen 2 yn nodi’r cofnodion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cadw ac mae Atodlen 3 yn nodi’r hysbysiadau penodol y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud.

Mae Rhan 15 yn cynnwys gofynion hysbysu penodol sy’n gymwys i wasanaethau llety diogel a gwasanaethau cartrefi gofal sy’n darparu llety i blant.

Mae Rhan 15 hefyd yn cynnwys gofynion ar y darparwr gwasanaeth i gael polisi cwyno a pholisi chwythu’r chwiban yn eu lle.

Mae Rhannau 16 i 20 yn cynnwys y gofynion a osodir ar unigolion cyfrifol. Mae’r rheoliadau yn y Rhannau hyn wedi eu gwneud o dan adran 28 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 16 yn nodi’r gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau y caiff y gwasanaeth ei reoli’n effeithiol. Mae dyletswydd gyffredinol ar yr unigolyn cyfrifol i oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth (rheoliad 66) ac mae arno ddyletswyddau penodol i benodi person addas i reoli’r gwasanaeth (rheoliadau 67 ac 68), i roi trefniadau yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth pan fo’r rheolwr yn absennol (rheoliad 72) ac i ymweld â’r mannau lle y darperir y gwasanaeth (rheoliad 73).

Mae Rhan 17 yn cynnwys gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol. Drwy osod y gofynion hyn ar yr unigolyn cyfrifol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn sicrhau bod person ar lefel briodol uchel yn y sefydliad yn atebol am ansawdd a chydymffurfedd y gwasanaeth. Mae’n ofynnol i’r unigolyn cyfrifol wneud adroddiadau i’r darparwr gwasanaeth ar ddigonolrwydd adnoddau (rheoliad 74) ac ar faterion eraill (rheoliad 75). Mae’n ofynnol i’r unigolyn cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer ymgysylltu ag unigolion ac eraill er mwyn i’w safbwyntiau ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth (rheoliad 76).

Mae Rhan 18 yn nodi’r gofynion ar yr unigolyn cyfrifol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion eraill, gan gynnwys gofynion o ran hysbysu am ddigwyddiadau a chwynion (rheoliad 77) a chadw cofnodion (rheoliad 78). Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hefyd roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr yn cael eu cadw’n gyfredol (rheoliad 79).

Mae Rhan 19 yn nodi’r gofynion ar yr unigolyn cyfrifol mewn perthynas â monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir, gan gynnwys gwneud adroddiad i’r darparwr gwasanaeth.

Mae Rhan 20 yn nodi gofynion eraill ar yr unigolyn cyfrifol, gan gynnwys gofynion i wneud hysbysiadau penodol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a gynhwysir yn Atodlen 4.

Mae Rhan 21 yn ymdrin â throseddau. Mae rheoliad 85 wedi ei wneud o dan y pwerau yn adran 45 o’r Ddeddf ac yn darparu bod methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion darpariaethau penodedig yn y Rheoliadau hyn yn drosedd. Mae amod pellach sy’n gymwys yn achos methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion penodol. Yn yr achosion hyn, mae’r rheoliad yn darparu nad yw hon ond yn drosedd os yw methu â chydymffurfio yn arwain at wneud unigolion yn agored i niwed y gellir ei osgoi, neu’n agored i risg sylweddol o niwed o’r fath neu’n agored i golli arian neu eiddo o ganlyniad i ddwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi.

Mae rheoliad 86 yn darparu ei bod yn drosedd i’r unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â gofynion darpariaethau penodedig yn y Rheoliadau hyn. Mae’r rheoliad hwn wedi ei wneud o dan adran 46 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 22 yn nodi gofynion penodol sy’n gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn ansolfent neu pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn gosod dyletswyddau hysbysu penodol ar y person a benodir (yn achos ansolfedd) neu ar y cynrychiolwyr personol (yn achos marwolaeth darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn). Mae rheoliad 88 yn galluogi’r cynrychiolwyr personol i weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth ac mae’r Ddeddf wedi ei haddasu fel nad yw’n ofynnol, o dan yr amgylchiadau hyn, i’r cynrychiolwyr personol gofrestru a gall un o’r cynrychiolwyr personol gael ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â man lle y darperir y gwasanaeth.

Mae Rhan 23 (rheoliad 89) yn pennu’r amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol er nad yw gofynion cymhwystra adran 21(2) o’r Ddeddf wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn. Mae’r rheoliad hwn wedi ei wneud o dan adran 21(5) o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(b), (f), (g), (j) a (k) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2017 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

 

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                             2 Ebrill 2018

CYNNWYS

RHAN 1

Cyffredinol

1.       Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

 

RHAN 2

Eithriadau

2.       Gwasanaethau cartrefi gofal

3.       Gwasanaethau cymorth cartref

4.       Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd

5.       Ystyr perthynas deuluol neu bersonol

 

RHAN 3

Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau

6.       Gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth

7.       Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben

8.       Gofynion mewn perthynas â monitro a gwella

9.       Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol

10.     Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn

11.     Gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth

12.     Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau

13.     Dyletswydd gonestrwydd

 

RHAN 4

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i gael eu cymryd cyn cytuno i ddarparu gofal a chymorth

14.     Addasrwydd y gwasanaeth 

 

RHAN 5

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i gael eu cymryd wrth gychwyn y ddarpariaeth o ofal a chymorth

15.     Cynllun personol

16.     Adolygu cynllun personol

17.     Cofnodion o gynlluniau personol

18.     Asesiad darparwr

 

RHAN 6

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i gael ei darparu i unigolion wrth gychwyn y ddarpariaeth o ofal a chymorth

19.     Gwybodaeth am y gwasanaeth

20.     Cytundeb gwasanaeth

 

 RHAN7

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i gael eu darparu

21.     Safonau gofal a chymorth – gofynion cyffredinol

22.     Parhad gofal

23.     Gwybodaeth

24.     Iaith a chyfathrebu

25.     Parch a sensitifrwydd

 

RHAN 8

 Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau - diogelu

26.     Diogelu – gofyniad cyffredinol

27.     Polisïau a gweithdrefnau diogelu

28.     Cefnogi unigolion i reoli eu harian

29.     Y defnydd priodol o reolaeth ac ataliaeth

30.     Gwaharddiad ar y defnydd o gosb gorfforol

31.     Amddifadu o ryddid

32.     Dehongli Rhan 8

 

RHAN 9

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau nad ydynt ond yn gymwys pan fo llety yn cael ei ddarparu

33.     Cael gafael ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill

 

RHAN 10

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio

34.     Staffio – gofynion cyffredinol

35.     Addasrwydd staff

36.     Cefnogi a datblygu staff

37.     Cydymffurfio â chod ymarfer y cyflogwr

38.     Gwybodaeth ar gyfer staff

39.     Gweithdrefnau disgyblu

 

 RHAN11

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth cartref

40.     Cymhwyso rheoliadau yn y Rhan hon

41.     Amlinellu amser teithio ac amser gofal

42.     Cynnig y dewis o drefniadau contractiol eraill i weithwyr gofal cartref sydd ar gontractau oriau heb eu gwarantu

RHAN 12

 Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar

43.     Gofyniad cyffredinol

44.     Mangreoedd – gwasanaethau llety yn unig

45.     Ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir - oedolion

46.     Ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir - plant

47.     Mangreoedd – pob gwasanaeth

48.     Cyfleusterau a chyfarpar

 

RHAN 13

 Gofynion ychwanegol ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â mangreoedd – llety newydd

49.     Cymhwyso Rhan 13

50.     Gofynion ychwanegol – ystafelloedd ymolchi en-suite

51.     Gofynion ychwanegol – maint ystafelloedd

52.     Gofynion ychwanegol – lle cymunedol

53.     Gofynion ychwanegol – lle yn yr awyr agored

54.     Gofynion ychwanegol – lifft i deithwyr

 

RHAN 14

 Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran cyflenwadau, hylendid, iechyd a diogelwch a meddyginiaethau

55.     Cyflenwadau

56.     Hylendid a rheoli heintiau

57.     Iechyd a diogelwch

58.     Meddyginiaethau

 

RHAN 15

 Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau

59.     Cofnodion

60.     Hysbysiadau

61.     Hysbysu mewn cysylltiad â phlant sy’n cael eu derbyn i fan, neu ei ryddhau o fan, y darperir llety i blant ynddo

62.     Hysbysu mewn cysylltiad â marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya mewn cartref diogel i blant

63.     Gwrthdaro buddiannau (gan gynnwys gwaharddiadau)

64.     Polisi a gweithdrefn gwyno

65.     Chwythu’r chwiban

 

RHAN 16

 Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol

66.     Goruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth

67.     Dyletswydd i benodi rheolwr

68.     Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr

69.     Cyfyngiadau ar benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth

70.     Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i’r darparwr gwasanaeth

71.     Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i reoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethau

72.     Y trefniadau pan fydd rheolwr yn absennol

73.     Ymweliadau

 

RHAN 17

 Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol

74.     Goruchwylio digonolrwydd adnoddau

75.     Adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth

76.     Ymgysylltu ag unigolion ac eraill

 

RHAN 18

 Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth

77.     Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynion

78.     Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle ar gyfer cadw cofnodion

79.     Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredol

 

RHAN 19

 Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth rheoleiddiedig

80.     Adolygiad o ansawdd y gofal

81.     Datganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth

 

RHAN 20

 Gofynion eraill ar unigolion cyfrifol

82.     Cymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderon

83.     Dyletswydd gonestrwydd

84.     Hysbysiadau

 

RHAN 21

 Troseddau

85      Troseddau – darparwyr gwasanaethau

86.     Troseddau – unigolion cyfrifol

 

RHAN 22

 Darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod etc. neu sydd wedi marw

87.     Penodi datodwyr etc.

88.     Marwolaeth darparwr gwasanaeth

 

 RHAN23

 Rheoliadau o dan adran 21(5) o’r Ddeddf

89.     Dynodiad unigolyn cyfrifol gan Weinidogion Cymru

 

ATODLEN 1          

             RHAN 1 –       Gwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig

             RHAN 2 –       Dehongli Rhan 1

ATODLEN 2      —       Cofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau rheoleiddiedig        

             RHAN 1 –       Cofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig                                                                                                                

             RHAN 2 –       Cofnodion ychwanegol sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd

         ATODLEN 3  —  Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth                                             

             RHAN 1 –      Hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau mewn cysylltiad â phob gwasanaeth                                                                                                              

             RHAN 2 –       Hysbysiadau ychwanegol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau pan fo gofal a chymorth yn cael eu darparu i blant

             RHAN 3 –       Hysbysiadau i’r awdurdod lleoli pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

             RHAN 4 –       Hysbysiadau i’r awdurdod lleol y mae’r cartref yn ei ardal pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

             RHAN 5 –       Hysbysiadau i’r swyddog heddlu priodol pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

             RHAN 6 –       Hysbysiadau i’r bwrdd iechyd y mae’r cartref wedi ei leoli yn ei ardal pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

         ATODLEN 4  —  Hysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(3), 21(5), 27, 28, 30, 31, 45, 46, 186(1) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016([1]) ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, fel sy’n ofynnol gan adrannau 27(4)(a) ac 28(4) o’r Ddeddf honno.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(b), (f), (g), (j) a (k) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

RHAN 1

Cyffredinol

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010([2]);

ystyr “asesiad darparwr” (“provider assessment”) yw’r asesiad y mae’n ofynnol iddo gael ei gynnal gan y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 18;

ystyr “awdurdod lleoli” (“placing authority”) mewn perthynas â phlentyn y darperir llety iddo fel rhan o wasanaeth cartref gofal neu wasanaeth llety diogel yw—

(a)     yn achos plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod lleol hwnnw;

(b)     yn achos plentyn nad yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol yn Lloegr—

                           (i)    os yw llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn gan sefydliad gwirfoddol, y sefydliad gwirfoddol hwnnw;

                         (ii)    os yw’r plentyn wedi ei letya mewn ysgol gymhwysol o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol (pa un ai wrth arfer swyddogaethau addysg o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996([3]) neu fel arall), yr awdurdod lleol hwnnw;

                       (iii)    mewn unrhyw achos arall, rhiant y plentyn;

ac at ddibenion y diffiniad hwn, ystyr “ysgol gymhwysol” (“qualifying school”) yw ysgol sy’n wasanaeth cartref gofal yn rhinwedd cymhwyso paragraff 1(3) o Atodlen 1 i’r Ddeddf;

ystyr “canlyniadau personol” (“personal outcomes”)—

(a)     mewn perthynas ag oedolyn, yw’r canlyniadau y mae’r oedolyn yn dymuno eu cyflawni mewn bywyd o ddydd i ddydd;

(b)     mewn perthynas â phlentyn, yw—

                           (i)    y canlyniadau y mae’r plentyn yn dymuno eu cyflawni, neu

                         (ii)    y canlyniadau y mae unrhyw bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant yn dymuno eu cyflawni mewn perthynas â’r plentyn;

ystyr “comisiynydd y gwasanaeth” (“service commissioner”) yw’r awdurdod lleol neu’r corff GIG sy’n gyfrifol am wneud trefniadau â’r darparwr er mwyn i ofal a chymorth gael eu darparu i unigolyn:

ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw cynllun o dan adran 54 neu adran 83 o Ddeddf 2014;

ystyr “cynllun personol” (“personal plan”) yw’r cynllun y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio yn unol â rheoliad 15(1);

ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw unrhyw berson a chanddo awdurdod cyfreithiol neu sydd wedi cael cydsyniad yr unigolyn i weithredu ar ran yr unigolyn;

mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr un ystyr ag yn adran 3(1)(c) o’r Ddeddf;

ystyr “y datganiad o ddiben” (“the statement of purpose”) yw’r datganiad o ddiben ar gyfer y man y mae’r gwasanaeth wedi ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef([4]);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([5]);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

ystyr “y gwasanaeth” (“the service”) yw—

(a)     mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, y gwasanaeth a ddarperir mewn lleoliad penodedig;

(b)     mewn perthynas â gwasanaeth cymorth cartref, y gwasanaeth a ddarperir mewn perthynas ag ardal benodedig.

At ddiben y diffiniad hwn—

                           (i)    ystyr “lleoliad penodedig” (“specified location”) yw lleoliad a bennir mewn amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth fel man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo([6]);

                         (ii)    ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw ardal a bennir mewn amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth fel man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu mewn perthynas ag ef.

Ond nid yw’r diffiniad hwn yn gymwys i gyfeiriadau at “y gwasanaeth” (“the service”) yn Rhan 22;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 oed;

mae i “plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol” (“child who is looked after by a local authority”) yr un ystyr ag yn adran 74 o Ddeddf 2014;

ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999([7]) yn gymwys iddo;

ystyr “y rheoleiddiwr gwasanaethau” (“the service regulator”) yw Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol([8]);

ystyr “rheoleiddiwr y gweithlu” (“the workforce regulator”) yw Gofal Cymdeithasol Cymru;

mae “staff” (“staff”) yn cynnwys—

(a)     personau a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn y gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr, a

(b)     personau sydd wedi eu cymryd ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau,

ond nid yw’n cynnwys personau y caniateir iddynt weithio fel gwirfoddolwyr.

At ddiben y diffiniad hwn, mae i “cyflogai” a “gweithiwr” yr un ystyron ag “employee” a “worker” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996([9]);

ystyr “yr unigolyn” (“the individual”), oni noda’r cyd-destun yn wahanol, yw’r plentyn neu’r oedolyn sy’n cael gofal a chymorth;

mae i “yr unigolyn cyfrifol” (“the responsible individual”) yr un ystyr ag yn adran 21(1) o’r Ddeddf;

ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig([10]) sydd—

(a)     yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([11]), neu

(b)     yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno;

ystyr “ymarferydd deintyddol cofrestredig” (“registered dental practioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion a gedwir o dan Ddeddf Deintyddion 1984([12]) sydd—

(a)     yn darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, neu

(b)     yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno.

 

RHAN 2

Eithriadau

Gwasanaethau cartrefi gofal

2.(1)(1) Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cartref gofal, er gwaethaf paragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cartrefi gofal)—

(a)     y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolyn—

                           (i)    mewn perthynas deuluol neu bersonol, a

                         (ii)    ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;

(b)     y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolion am gyfnod o lai nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis neu am nifer o gyfnodau sy’n gyfanswm o lai nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;

(c)     y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio, pan fo’r llety wedi ei freinio—

                           (i)    yng Ngweinidogion Cymru at ddibenion eu swyddogaethau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

                         (ii)    mewn ymddiriedolaeth GIG;

                       (iii)    mewn Bwrdd Iechyd Lleol.

(d)     y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu—

                           (i)    gan sefydliad o fewn y sector addysg bellach; neu

                         (ii)    gan brifysgol.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os yw nifer y personau y darperir y llety hwnnw iddynt yn fwy na degfed ran o nifer y myfyrwyr y mae’n darparu addysg a llety iddynt.

At ddibenion y paragraff hwn, mae i “sector addysg bellach” yr un ystyr â “further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992([13]);

(e)     y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety a ddarperir yn gyfystyr â gofal dydd i blant, o fewn ystyr adran 19(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010([14]).

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os—

                           (i)    mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, oes 28 neu ragor o gyfnodau o 24 awr y darperir mwy na 15 awr o ofal dydd ynddynt mewn perthynas ag unrhyw un plentyn (pa un a yw’r plentyn o dan 12 oed ai peidio);

                         (ii)    yw’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl.

(f)      y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant 16 oed a throsodd a dim ond at ddibenion galluogi’r plant i ymgymryd â hyfforddiant neu brentisiaeth.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os yw’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl;

(g)     y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant mewn hostel fechnïaeth a gymeradwyir neu hostel brawf a gymeradwyir;

(h)     y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety yn sefydliad i droseddwyr ifanc a ddarperir o dan neu yn rhinwedd adran 43(1) o Ddeddf Carchardai 1952([15]);

(i)      y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen at ddibenion—

                           (i)    gwyliau;

                         (ii)    gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys—

                           (i)    mewn unrhyw achos pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl;

                         (ii)    os yw’r llety wedi ei ddarparu i unrhyw un plentyn am fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, os nad yw’r llety ond wedi ei ddarparu i blant dros 16 oed.

(2) At ddibenion paragraff (1)(e), (f) ac (i) o’r rheoliad hwn, mae plentyn yn “anabl” os oes gan y plentyn anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010.

(3) Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.

Gwasanaethau cymorth cartref

3.(1)(1) Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cymorth cartref, er gwaethaf paragraff 8 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cymorth cartref)—

(a)     y ddarpariaeth o gymorth yn unig;

(b)     y ddarpariaeth o ofal a chymorth i bedwar neu lai o unigolion ar unrhyw un adeg;

(c)     y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer oedolyn—

                           (i)    mewn perthynas deuluol neu bersonol, a

                         (ii)    ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;

(d)     y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer plentyn gan riant, perthynas neu riant maeth;

(e)     y ddarpariaeth o ofal a chymorth gan ofalwr pan fo gofal a chymorth o’r fath yn cael ei ddarparu heb ymglymiad ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi (o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadroddion “employment agency” neu “employment business” gan adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973([16])), a phan fo’r gofalwr yn gweithio’n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth trydydd parti cysylltiedig;

(f)      trefniadau ar gyfer cyflenwi gofalwyr i ddarparwr gwasanaeth gan ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi at ddiben darparu gwasanaeth rheoleiddiedig gan y darparwr gwasanaeth;

(g)     y ddarpariaeth o ofal a chymorth pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu gan berson sy’n rheoli carchar neu sefydliad carcharu tebyg arall.

(2) Ym mharagraff (1)(e) ac (f), ystyr “gofalwr” yw unigolyn sy’n darparu gofal i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

(3) Ym mharagraff (1)(e), ystyr “trydydd parti cysylltiedig” yw—

(a)     unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant (o fewn ystyr “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989([17])) ar gyfer plentyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;

(b)     unigolyn a chanddo atwrneiaeth neu awdurdod cyfreithlon arall i wneud trefniadau ar ran yr unigolyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;

(c)     grŵp o unigolion a grybwyllir naill ai yn is-baragraff (a) neu yn is-baragraff (b) sy’n gwneud trefniadau ar ran dim mwy na phedwar unigolyn a enwir y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddynt;

(d)     ymddiriedolaeth a sefydlir at ddiben darparu gwasanaethu i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn a enwir.

(4) Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.

Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd

4. Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, er gwaethaf paragraff 3 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd)—

(a)     y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni pan fo’r llety wedi ei ddarparu mewn ysbyty([18]);

(b)     y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni pan fo’r llety wedi ei ddarparu mewn hostel neu mewn lloches rhag trais domestig;

(c)     mewn unrhyw achos arall, y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni sydd â’r prif ddiben o ddarparu llety ynghyd â gwasanaethau a chyfleusterau eraill i unigolion sy’n oedolion ac mae’r ffaith y gall yr unigolion hynny fod yn rhieni, neu y gall eu plant fod gyda hwy, yn ail i’r prif ddiben o ddarparu’r llety.

Ystyr perthynas deuluol neu bersonol

5. At ddibenion y Rhan hon—

(a)     mae perthynas deuluol yn cynnwys perthynas rhwng dau berson sydd—

                           (i)    yn byw yn yr un aelwyd, a

                         (ii)    yn trin ei gilydd fel pe baent yn aelodau o’r un teulu;

(b)     mae perthynas bersonol yn berthynas rhwng neu ymhlith ffrindiau;

(c)     mae ffrind i berson (A) yn cynnwys person sy’n ffrind i aelod o deulu A.

 

RHAN 3

Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau

Gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth

6. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben

7.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a

(b)     pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.

(3) Oni bai bod paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad sydd i gael ei wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.

(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’n angenrheidiol diwygio’r datganiad o ddiben gydag effaith ar unwaith.

(5) Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth, yn ddi-oed, hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad a wneir i’r datganiad o ddiben.

(6) Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) neu (5) yw—

(a)     y rheoleiddiwr gwasanaethau,

(b)     yr unigolion,

(c)     yr awdurdod lleoli (pan fo’n berthnasol), a

(d)     unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

(7) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.

Gofynion mewn perthynas â monitro a gwella

8.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

(2) Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—

(a)     unigolion,

(b)     unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn,

(c)     yn achos unigolyn sy’n blentyn y darperir llety iddo fel rhan o wasanaeth cartref gofal, yr awdurdod lleoli,

(d)     comisiynwyr gwasanaethau, ac

(e)     staff,

ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.

(3) Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a

(b)     rhoi sylw i’r adroddiad ar ansawdd gofal a lunnir gan yr unigolyn cyfrifol yn unol â rheoliad 80(4).

Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol

9.(1)(1) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn.

(2) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y person sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol—

(a)     yn cael cymorth i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a

(b)     yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.

(3) Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r unigolyn cyfrifol wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhannau 16 i 20, rhaid i’r darparwr—

(a)     cymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad, a

(b)     hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau.

(4) Yn ystod unrhyw adeg pan nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—

(a)     rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,

(b)     goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,

(c)     cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15, a

(d)     monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

(5) Os nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a

(b)     rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.

Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn

10.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

(2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r unigolyn ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol fel yr unigolyn cyfrifol.

(3) Yn ystod unrhyw adeg pan fo’r unigolyn yn absennol, rhaid iddo sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—

(a)     rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,

(b)     goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,

(c)     cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15, a

(d)     monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

(4) Os nad yw’r unigolyn yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid iddo—

(a)     hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a

(b)     rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.

Gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth

11.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol at ddiben cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnal cyfrifon priodol a chyfredol ar gyfer y gwasanaeth.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu copïau o’r cyfrifon i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gyfrifon gael eu hardystio gan gyfrifydd.

Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau

12.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—

Derbyniadau a chychwyn y gwasanaeth (gweler Rhan 5, rheoliad 14)

Diogelu (gweler Rhan 8, rheoliad 27)

Cefnogi unigolion i reoli eu harian (gweler Rhan 8, rheoliad 28)

Defnyddio rheolaeth neu ataliaeth (gweler Rhan 8, rheoliad 29)

Cefnogi a datblygu staff (gweler Rhan 10, rheoliad 36)

Disgyblu staff (gweler Rhan 10, rheoliad 39)

Rheoli heintiau (gweler Rhan 14, rheoliad 56)

Meddyginiaeth (gweler Rhan 14, rheoliad 58)

Cwynion (gweler Rhan 15, rheoliad 64)

Chwythu’r chwiban (gweler Rhan 15, rheoliad 65)

(2) Pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i blant, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar atal bwlio, gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio a gweithdrefn sydd i gael ei dilyn pan fydd unrhyw blentyn y darperir llety iddo yn absennol heb ganiatâd (gweler rheoliad 27(5)).

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth rheoleiddiedig a nodir yn y datganiad o ddiben.

(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) i (3)—

(a)     yn briodol i anghenion yr unigolion y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer,

(b)     yn gyson â’r datganiad o ddiben, ac

(c)     yn cael eu cadw’n gyfredol.

(5) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.

Dyletswydd gonestrwydd

13. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth weithredu mewn ffordd agored a thryloyw—

(a)     ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth,

(b)     ag unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny, ac

(c)     yn achos plentyn y darperir llety iddo, â’r awdurdod lleoli.

RHAN 4

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i gael eu cymryd cyn cytuno i ddarparu gofal a chymorth

Addasrwydd y gwasanaeth

14.(1)(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth ddarparu gofal a chymorth ar gyfer unigolyn oni bai bod y darparwr gwasanaeth wedi penderfynu bod y gwasanaeth yn addas i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn ac i gefnogi’r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.

(3) Rhaid i’r penderfyniad o dan baragraff (1) ystyried—

(a)     cynllun gofal a chymorth yr unigolyn,

(b)     os nad oes cynllun gofal a chymorth, asesiad y darparwr gwasanaeth o dan baragraff (4),

(c)     unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,

(d)     safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,

(e)     unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn,

(f)      unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt,

(g)     unrhyw addasiadau rhesymol y gallai’r darparwr gwasanaeth eu gwneud i alluogi i anghenion gofal a chymorth yr unigolyn gael eu diwallu, a

(h)     polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.

(4) Mewn achos pan na fo gan yr unigolyn gynllun gofal a chymorth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     asesu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn, a

(b)     nodi ei ganlyniadau personol.

(5) Rhaid i’r asesiad sy’n ofynnol gan baragraff (4) gael ei gynnal gan berson sydd—

(a)     â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gynnal yr asesiad, a

(b)     wedi cael hyfforddiant i gynnal asesiadau.

(6) Wrth wneud y penderfyniad ym mharagraff (1), rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—

(a)     os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu

(b)     pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

RHAN 5

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i gael eu cymryd wrth gychwyn y ddarpariaeth o ofal a chymorth

Cynllun personol

15.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio cynllun ar gyfer yr unigolyn sy’n nodi—

(a)     sut y bydd anghenion gofal a chymorth yr unigolyn yn cael eu diwallu o ddydd i ddydd,

(b)     sut y bydd yr unigolyn yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ganlyniadau personol,

(c)     y camau a fydd yn cael eu cymryd i liniaru unrhyw risgiau a nodir i lesiant yr unigolyn, a

(d)     y camau a fydd yn cael eu cymryd i gefnogi cymryd risgiau cadarnhaol ac annibyniaeth, pan benderfynwyd bod hyn yn briodol.

(2) Cyfeirir yn y Rheoliadau hyn at y cynllun y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio o dan baragraff (1) fel cynllun personol.

(3) Rhaid i’r cynllun personol gael ei lunio cyn i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn, oni bai bod paragraff (4) yn gymwys.

(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achos pan fo ar yr unigolyn angen brys am ofal a chymorth ac nad oes amser wedi bod i lunio cynllun personol cyn i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn.

(5) Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r cynllun personol gael ei lunio o fewn 24 awr i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gael ei chychwyn i’r unigolyn.

(6) Wrth lunio cynllun personol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—

(a)     os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu

(b)     pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

(7) Wrth lunio’r cynllun personol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried—

(a)     cynllun gofal a chymorth yr unigolyn,

(b)     os nad oes cynllun gofal a chymorth, asesiad y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 14(4),

(c)     unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,

(d)     safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,

(e)     unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac

(f)      unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt.

Adolygu cynllun personol

16.(1)(1) Rhaid i’r cynllun personol gael ei adolygu fel sy’n ofynnol, a phan fo’n ofynnol, ond o leiaf bob tri mis.

(2) Yn achos plentyn sy’n derbyn gofal, rhaid i unrhyw adolygiad o’r cynllun personol gael ei alinio â’r adolygiadau y mae’n ofynnol iddynt gael eu cynnal gan yr awdurdod lleol o dan Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015([19]).

(3) Rhaid i adolygiadau o gynllun personol gynnwys adolygiad o’r graddau y mae’r unigolyn wedi gallu cyflawni ei ganlyniadau personol.

(4) Wrth gynnal adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—

(a)     os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu

(b)     pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

(5) Ar ôl cwblhau unrhyw adolygiad sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried a ddylai’r cynllun personol gael ei ddiwygio a diwygio’r cynllun yn ôl yr angen.

Cofnodion o gynlluniau personol

17. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     cadw cofnod—

                           (i)    o’r cynllun personol ac unrhyw gynllun diwygiedig, a

                         (ii)    o ganlyniad unrhyw adolygiad, a

(b)     rhoi copi o’r cynllun personol ac unrhyw gynllun diwygiedig—

                           (i)    i’r unigolyn,

                         (ii)    i unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn, ac

                       (iii)    pan fo llety wedi ei ddarparu i blentyn fel rhan o wasanaeth cartref gofal, i’r awdurdod lleoli.

Asesiad darparwr

18.(1)(1) O fewn 7 niwrnod i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer unigolyn gael ei chychwyn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     asesu sut y gellir diwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn orau,

(b)     asesu sut y gall yr unigolyn gael ei gefnogi orau i gyflawni ei ganlyniadau personol,

(c)     canfod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,

(d)     asesu unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac

(e)     asesu unrhyw risgiau i lesiant unigolion eraill y darperir gofal a chymorth iddynt.

(2) Cyfeirir yn y Rheoliadau hyn at yr asesiad o dan baragraff (1) fel asesiad darparwr.

(3) Rhaid i asesiad darparwr gael ei gynnal gan berson sydd—

(a)     â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gynnal yr asesiad, a

(b)     wedi cael hyfforddiant i gynnal asesiadau.

(4) Rhaid i asesiad darparwr ystyried—

(a)     cynllun gofal a chymorth yr unigolyn, os oes un ar gael,

(b)     asesiad y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 14(4), os yw’n gymwys,

(c)     unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,

(d)     safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,

(e)     unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn, ac

(f)      polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar dderbyniadau a chychwyn y gwasanaeth.

(5) Wrth gynnal neu ddiwygio asesiad darparwr, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, yr awdurdod lleoli (os yw’n gymwys) ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—

(a)     os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys, neu

(b)     pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.

(6) Rhaid i asesiad darparwr gael ei gadw o dan adolygiad a’i ddiwygio yn ôl yr angen.

(7) Ar ôl cwblhau asesiad y darparwr ac unrhyw asesiad diwygiedig, rhaid i’r cynllun personol gael ei adolygu a’i ddiwygio yn ôl yr angen.

(8) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw cofnod o asesiad darparwr a rhoi copi o’r asesiad i’r unigolyn, i unrhyw gynrychiolydd a, phan fo llety wedi ei ddarparu i’r plentyn gan wasanaeth cartref gofal, i’r awdurdod lleoli.

RHAN 6

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i gael ei darparu i unigolion wrth gychwyn y ddarpariaeth o ofal a chymorth

Gwybodaeth am y gwasanaeth

19.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.

(2) Rhaid i’r canllaw—

(a)     cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a’i ddiweddaru yn ôl yr angen,

(b)     bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat priodol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,

(c)     cael ei roi i bob unigolyn sy’n cael gofal a chymorth,

(d)     yn achos plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, gael ei roi i’r awdurdod lleoli, ac

(e)     cael ei wneud ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant unigolyn.

(3) Rhaid i’r canllaw gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)     gwybodaeth am sut i godi pryder neu wneud cwyn;

(b)     gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eirioli.

(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob unigolyn yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.

Cytundeb gwasanaeth

20.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y rhoddir i bob unigolyn gopi wedi ei lofnodi o unrhyw gytundeb sy’n ymwneud â—

(a)     y gofal a’r cymorth a ddarperir i’r unigolyn;

(b)     unrhyw wasanaethau eraill a ddarperir i’r unigolyn.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w galluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw gytundeb o’r fath.

RHAN 7

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i gael eu darparu

Safonau gofal a chymorth - gofynion cyffredinol

21.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gofal a chymorth mewn ffordd sy’n amddiffyn, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir y gofal a’r cymorth i bob unigolyn yn unol â chynllun personol yr unigolyn.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir y gofal a’r cymorth mewn ffordd—

(a)     sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff; a

(b)     sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion.

(4) Os nad yw’r darparwr gwasanaeth, o ganlyniad i newid i anghenion asesedig yr unigolyn, yn gallu diwallu’r anghenion hynny mwyach, hyd yn oed ar ôl gwneud unrhyw addasiadau rhesymol, rhaid i’r darparwr roi hysbysiad ysgrifenedig o hyn i’r unigolyn, unrhyw gynrychiolydd, comisiynydd y gwasanaeth a’r awdurdod lleoli ar unwaith.

Parhad gofal

22. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod unigolion yn cael parhad gofal sy’n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth.

Gwybodaeth

23.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan unigolion yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud neu gymryd rhan mewn asesiadau, cynlluniau a phenderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir gofal a chymorth iddynt a sut y maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.

(2) Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir fod ar gael yn yr iaith, yr arddull, y cyflwyniad a’r fformat priodol, gan roi sylw i—

(a)     natur y gwasanaeth fel y’i disgrifir yn y datganiad o ddiben;

(b)     y lefel o ddealltwriaeth yr unigolyn a’i allu i gyfathrebu;

(c)     yn achos plentyn, oedran y plentyn.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod yr unigolyn yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.

Iaith a chyfathrebu

24.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith unigolion.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir mynediad i unrhyw gymhorthion a chyfarpar sy’n angenrheidiol i unigolyn i hwyluso’r ffordd y mae’r unigolyn yn cyfathrebu ag eraill.

Parch a sensitifrwydd

25.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.

(2) Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i,—

(a)     parchu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn;

(b)     parchu hawliau’r unigolyn i gyfrinachedd;

(c)     hybu ymreolaeth ac annibyniaeth yr unigolyn;

(d)     rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel y’u diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010) yr unigolyn.

RHAN 8

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau - diogelu

Diogelu - gofyniad cyffredinol

26. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd sy’n sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.

Polisïau a gweithdrefnau diogelu

27.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—

(a)     ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a

(b)     ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.

(2) Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau o’r fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

(4) Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     gweithredu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau diogelu,

(b)     cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob unigolyn y darperir gofal a chymorth iddo,

(c)     gwneud atgyfeiriadau priodol at asiantaethau eraill, a

(d)     cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.

(5) Pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i blant, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle—

(a)     polisi ar atal bwlio;

(b)     gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio;

(c)     y weithdrefn sydd i gael ei dilyn pan fo unrhyw blentyn y darperir llety iddo yn absennol heb ganiatâd.

Cefnogi unigolion i reoli eu harian

28.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ynghylch cefnogi unigolion i reoli eu harian a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisi hwnnw a’r gweithdrefnau hynny.

(2) Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol gan y rheoliad hwn iddynt fod yn eu lle nodi’r camau sydd i gael eu cymryd i alluogi a chefnogi pobl i reoli eu harian eu hunain ac i amddiffyn unigolion rhag camdriniaeth ariannol.

(3) Pan fo arian unigolyn yn cael ei ddal gan y darparwr gwasanaeth at unrhyw ddiben (ac eithrio arian a ddelir at ddiben talu ffioedd sy’n daladwy gan yr unigolyn yn unol ag unrhyw gytundeb â’r darparwr gwasanaeth), rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn ddarparu—

(a)     bod yr arian yn cael ei ddal mewn cyfrif yn enw’r unigolyn neu mewn cyfrif sy’n golygu bod modd gwahaniaethu’n glir rhwng arian pob unigolyn;

(b)     nad yw unrhyw gyfrif o’r fath yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â rheoli’r gwasanaeth.

(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau cyn belled ag y bo’n ymarferol nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn gweithredu fel asiant i unigolyn.

Y defnydd priodol o reolaeth ac ataliaeth

29.(1)(1) Ni chaniateir darparu gofal a chymorth mewn ffordd sy’n cynnwys gweithredoedd y bwriedir iddynt reoli neu atal unigolyn oni bai bod y gweithredoedd hynny—

(a)     yn angenrheidiol i atal risg o niwed a berir i’r unigolyn neu i unigolyn arall, a

(b)     yn ymateb cymesur i risg o’r fath.

(2) Ni chaniateir defnyddio rheolaeth neu ataliaeth oni bai ei bod yn cael ei chyflawni gan staff sydd wedi eu hyfforddi yn y dull rheolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi ar ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth a sicrhau bod unrhyw reolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir yn cael ei chyflawni yn unol â’r polisi hwn.

(4) Rhaid i gofnod o unrhyw ddigwyddiad y defnyddir rheolaeth neu ataliaeth ynddo gael ei wneud o fewn 24 awr.

(5) At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn rheoli neu’n atal unigolyn os yw’r person hwnnw—

(a)     yn defnyddio, neu’n bygwth defnyddio, grym i sicrhau bod gweithred yn cael ei gwneud y mae’r unigolyn yn ei gwrthsefyll, neu

(b)     yn cyfyngu ar ryddid symud yr unigolyn, pa un a yw’r unigolyn yn gwrthsefyll ai peidio, gan gynnwys defnyddio dulliau corfforol, mecanyddol neu gemegol.

Gwaharddiad ar y defnydd o gosb gorfforol

30.(1)(1) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth sy’n darparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd sicrhau nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw blentyn y darperir llety iddo.

(2) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth sy’n darparu gwasanaeth cymorth cartref sicrhau nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw blentyn y darperir gofal a chymorth iddo.

Amddifadu o ryddid

31. Ni chaniateir amddifadu unigolyn o’i ryddid at ddiben cael gofal a chymorth heb awdurdod cyfreithlon.

Dehongli Rhan 8

32. Yn y Rhan hon—

ystyr “camdriniaeth” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol ac, mewn perthynas â phlentyn, unrhyw niwed arall.

At ddibenion y diffiniad hwn—

(a)     mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys—

                           (i)    bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;

                         (ii)    bod person yn cael ei dwyllo;

                       (iii)    bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;

                        (iv)    bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;

(b)     mae i “niwed” (“harm”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;

mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;

mae “triniaeth amhriodol” (“improper treatment”) yn cynnwys gwahaniaethu neu ataliaeth anghyfreithlon, gan gynnwys amddifadu amhriodol o ryddid o dan delerau Deddf Galluedd Meddyliol 2005([20]).

 

RHAN 9

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau nad ydynt ond yn gymwys pan fo llety yn cael ei ddarparu

Cael gafael ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill

33.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd y mae’r darparwr wedi ei gofrestru i’w ddarparu.

(2) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo roi trefniadau yn eu lle er mwyn i unigolion—

(a)     cael eu cofrestru ag ymarferydd cyffredinol,

(b)     cael eu rhoi o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig,

(c)     gallu cael gafael ar driniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill gan unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd yn ôl yr angen, a

(d)     cael eu cefnogi i gael gafael ar wasanaethau o’r fath.

(3) Yn achos gwasanaeth cartref gofal sy’n darparu llety yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant neu yn achos gwasanaeth llety diogel, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddynodi aelod o staff i fod yn “gweithiwr cyswllt” ar gyfer pob plentyn a rhaid iddo sicrhau—

(a)     bod gweithiwr cyswllt plentyn yn cymryd rhan mewn unrhyw adolygiad sy’n ymwneud ag ystyried cynnydd addysgol y plentyn, pa un a yw’n cael ei gynnal o dan reoliadau a wneir o dan adran 102 o Ddeddf 2014, Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 neu fel arall;

(b)     bod gweithiwr cyswllt plentyn yn cymryd rhan mewn unrhyw adolygiad sy’n ymwneud ag ystyried unrhyw agwedd ar iechyd plentyn, pa un a yw’n cael ei gynnal o dan reoliadau a wneir o dan adran 102 o Ddeddf 2014, Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 neu fel arall.

(4) Ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwn, ystyr “gweithiwr cyswllt” yw aelod o staff gwasanaeth cartref gofal ar gyfer plant sydd ar lefel briodol uchel a chanddo gyfrifoldeb penodol am amddiffyn a hybu iechyd a lles addysgol plentyn unigol ac am gydgysylltu â darparwyr addysg a gofal iechyd ar ran y plentyn hwnnw.

RHAN 10

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio

Staffio - gofynion cyffredinol

34.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas wedi eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—

(a)     i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth;

(b)     i anghenion gofal a chymorth yr unigolion;

(c)     i gefnogi unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol;

(d)     i ofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15.

(2) Yn achos gwasanaeth cartref gofal pan fo unrhyw unigolyn y darperir llety iddo wedi cael ei asesu yn rhywun y mae angen gofal nyrsio 24 awr arno, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod nifer digonol o nyrsys cofrestredig sydd â’r cymwysterau addas wedi eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth ar bob adeg.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth allu dangos y ffordd y mae’r penderfyniad wedi ei wneud o ran—

(a)     y mathau o staff a ddefnyddir, a

(b)     niferoedd y staff o bob math a ddefnyddir.

(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

(5) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau nad yw cyflogi neu gymryd ymlaen unrhyw bersonau ar sail dros dro neu ar gontract oriau heb eu gwarantu yn atal unigolion rhag cael y parhad gofal y mae’r darparwr wedi penderfynu yn unol â rheoliad 22 ei fod yn rhesymol i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth.

(6) Ym mharagraff (5) o’r rheoliad hwn, mae i “contract oriau heb eu gwarantu” yr un ystyr ag yn rheoliad 42.

Addasrwydd staff

35.(1)(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—

(a)     cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(b)     caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(c)     caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth neu â phersonau eraill sy’n hyglwyf oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—

(a)     bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;

(b)     bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i’w wneud;

(c)     bod y person oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawni’n briodol y tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith y mae wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar ei gyfer;

(d)     bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 i Atodlen 1 a bod yr wybodaeth hon neu’r ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni;

(e)     pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru;

(f)      pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn rhinwedd ac eithrio fel rheolwr ac yng nghwrs ei gyflogaeth fod y person yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—

                           (i)    â gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o’r Ddeddf a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant; neu

                         (ii)    â gwasanaeth llety diogel o fewn ystyr Rhan 1 o’r Ddeddf,

fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8) am ystyr “y dyddiad perthnasol”).

(3) Rhaid i gais gael ei wneud ar gyfer y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraffau 2 a 3 o Atodlen 1 (y cyfeirir ati yn y rheoliad hwn fel tystysgrif GDG) gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r person sy’n gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaru’r GDG).

(4) Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.

(5) Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.

(6) Pan nad yw person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif newydd GDG mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.

(7) Os nad yw unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion perthnasol;

(b)     pan fo’n briodol, roi gwybod—

                           (i)    i’r corff rheoleiddiol neu broffesiynol perthnasol;

                         (ii)    i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

(8) Ym mharagraff (2)(f) o’r rheoliad hwn, “y dyddiad perthnasol” yw naill ai—

(a)     chwe mis o’r dyddiad y dechreuodd y person ei gyflogaeth, neu

(b)     dyddiad diweddarach y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.

(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) a’r “GDG” (“DBS”) yw’r corff a sefydlir gan adran 1 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006([21]).

Cefnogi a datblygu staff

36.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—

(a)     yn cael cyfnod sefydlu sy’n briodol i’w rôl;

(b)     yn cael ei wneud yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill.

(c)     yn cael ei oruchwylio a’i arfarnu’n briodol;

(d)     yn cael hyfforddiant craidd sy’n briodol i’r gwaith sydd i gael ei wneud ganddo;

(e)     yn cael hyfforddiant arbenigol fel y bo’n briodol;

(f)      yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach sy’n briodol i’r gwaith y mae’n ei wneud.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn cael ei gefnogi i gynnal ei gofrestriad â’r corff rheoleiddiol neu alwedigaethol priodol.

Cydymffurfio â chod ymarfer y cyflogwr

37. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lynu wrth y cod ymarfer ar y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru ei gyhoeddi o dan adran 112(1)(b) o’r Ddeddf.

Gwybodaeth ar gyfer staff

38.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru eu cyhoeddi o dan adran 112(1)(a) o’r Ddeddf.

Gweithdrefnau disgyblu

39.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.

(2) Rhaid i’r weithdrefn ddisgyblu gynnwys—

(a)     darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogai er budd diogelwch neu lesiant pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth;

(b)     darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gamdriniaeth, neu ar amheuaeth o gamdriniaeth, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.

(3) At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—

(a)     y darparwr gwasanaeth,

(b)     yr unigolyn cyfrifol,

(c)     swyddog i’r rheoleiddiwr gwasanaethau,

(d)     swyddog i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y darperir y gwasanaeth ynddi,

(e)     yn achos cam-drin neu o amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog i’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu

(f)      swyddog heddlu.

RHAN 11

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth cartref

Cymhwyso rheoliadau yn y Rhan hon

40.  Nid yw’r rheoliadau yn y Rhan hon ond yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth cymorth cartref y mae’r darparwr wedi ei gofrestru i’w ddarparu.

Amlinellu amser teithio ac amser gofal

41.(1)(1) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo—

(a)     llunio amserlen ymweliadau mewn cysylltiad â phob gweithiwr gofal cartref sy’n gweithio yn y gwasanaeth; a

(b)     darparu copi o’r amserlen ymweliadau berthnasol i’r gweithiwr gofal cartref y mae’r amserlen honno yn ymwneud ag ef.

(2) Rhaid i’r amserlen ymweliadau amlinellu’r amser a neilltuir ar gyfer amser teithio, yr amser a neilltuir ar gyfer pob ymweliad ac (os yw’n gymwys) yr amser a neilltuir ar gyfer seibiannau gorffwys.

(3) Rhaid i’r amser a neilltuir ar gyfer amser teithio fod yn ddigonol gan roi sylw i—

(a)     y pellter rhwng lleoliad un ymweliad sydd wedi ei amserlennu a’r ymweliad nesaf sydd wedi ei amserlennu; a

(b)     unrhyw ffactorau eraill y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt effeithio ar amser teithio, megis tagfeydd traffig ac argaeledd cyfleusterau parcio yn lleoliad yr ymweliadau sydd wedi eu hamserlennu.

(4) Rhaid i’r amser a neilltuir ar gyfer pob ymweliad—

(a)     bod yn ddigonol i alluogi i ofal a chymorth gael eu darparu i’r unigolyn yn unol â’i gynllun personol; a

(b)     peidio â bod yn llai na 30 munud oni bai y bodlonir naill ai amod A, B neu C, fel y’u disgrifir yn adran 8 o’r Ddeddf.

(5) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod cofnod yn cael ei gadw o’r amser a dreulir gan bob gweithiwr gofal cartref ar amser teithio, ymweliadau a seibiannau gorffwys.

(6) At ddibenion y rheoliad hwn—

mae “amser teithio” (“travel time”) yn cynnwys yr amser a dreulir wrth deithio rhwng lleoliad un ymweliad sydd wedi ei amserlennu a lleoliad yr ymweliad nesaf sydd wedi ei amserlennu ond nid yw’n cynnwys unrhyw amser a dreulir wrth deithio o gartref y gweithiwr gofal cartref i leoliad yr ymweliad cyntaf sydd wedi ei amserlennu nac unrhyw amser a dreulir wrth deithio o leoliad yr ymweliad olaf sydd wedi ei amserlennu i gartref y gweithiwr gofal cartref;

ystyr “amserlen ymweliadau” (“schedule of visits”) yw amserlen o’r ymweliadau y mae’n ofynnol i weithiwr gofal cartref eu cyflawni yn ystod diwrnod neu wythnos;

ystyr “gweithiwr gofal cartref” (“domiciliary care worker”) yw person sy’n darparu gofal a chymorth i unigolion fel rhan o wasanaeth cymorth cartref ac mae’n cynnwys—

(a)  person a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr; a

(b)  person a gymerir ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau.

At ddibenion y diffiniad hwn, mae i’r termau “a gyflogir”, “cyflogai”, a “gweithiwr” yr un ystyron ag “employed”, “employee” a “worker” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;

ystyr “ymweliad” (“visit”) yw ymweliad ag unigolyn at ddiben darparu gwasanaeth cymorth cartref.

Cynnig y dewis o drefniadau contractiol eraill i weithwyr gofal cartref sydd ar gontractau oriau heb eu gwarantu

42.(1)(1) Os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnig i weithiwr gofal cartref y dewis o barhau i gael ei gyflogi o dan y naill neu’r llall o’r mathau a ganlyn o drefniant contractiol—

(a)     contract cyflogaeth pan fo nifer yr oriau y mae’n ofynnol iddynt gael eu gweithio yr wythnos o leiaf yn gyfwerth â nifer cyfartalog yr oriau a weithiwyd yr wythnos yn ystod y tri mis blaenorol;

(b)     contract cyflogaeth pan fo nifer yr oriau y mae’n ofynnol iddynt gael eu gweithio yr wythnos yn llai na nifer cyfartalog yr oriau a weithiwyd yr wythnos yn ystod y tri mis blaenorol.

Ond nid yw’r gofyniad hwn yn atal y darparwr gwasanaeth rhag cyflogi gweithiwr gofal cartref ar unrhyw fath arall o drefniant contractiol y cytunwyd arno rhwng y darparwr a’r gweithiwr, gan gynnwys contract oriau heb eu gwarantu pellach.

(2) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)     bod y gweithiwr gofal cartref wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract oriau heb eu gwarantu ar gyfer y cyfnod cymhwysol,

(b)     bod y gweithiwr gofal cartref wedi gweithio oriau rheolaidd yn ystod y tri mis cyn diwedd y cyfnod cymhwysol,

(c)     bod y darparwr wedi penderfynu bod angen o hyd i’r oriau gael eu gweithio ar sail barhaus, a

(d)     bod y gweithiwr gofal cartref wedi perfformio’n foddhaol yn ystod y cyfnod cymhwysol.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “contract oriau heb eu gwarantu” (“non-guaranteed hours contract”) yw contract cyflogaeth neu gontract gweithiwr arall—

(a)     y mae’r ymgymeriad i wneud gwaith neu i gyflawni gwasanaethau odano yn ymgymeriad i wneud hynny ar yr amod bod y cyflogwr yn gwneud gwaith neu wasanaethau ar gael i’r gweithiwr, a

(b)     nad oes unrhyw sicrwydd odano y bydd unrhyw waith o’r fath neu unrhyw wasanaethau o’r fath yn cael eu gwneud ar gael i’r gweithiwr.

At ddiben y diffiniad hwn, mae cyflogwr yn gwneud gwaith neu wasanaethau ar gael i weithiwr os yw’r cyflogwr yn gofyn i’r gweithiwr wneud y gwaith neu gyflawni’r gwasanaethau neu’n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny;

“y cyfnod cymhwysol” (“the qualifying period”) yw— 

(a)     mewn unrhyw achos pan fo’r gweithiwr wedi dechrau cyflogaeth ar ôl y dyddiad perthnasol, y cyfnod o dri mis o ddyddiad dechrau’r gyflogaeth;

(b)     mewn unrhyw achos pan ddechreuodd y gweithiwr gyflogaeth cyn y dyddiad perthnasol, y cyfnod o dri mis sy’n dod i ben gyda’r dyddiad cychwyn;

(c)     mewn unrhyw achos pan fo’r gweithiwr wedi, yn flaenorol, gael cynnig y dewis o drefniant contractiol arall yn unol â gofynion y rheoliad hwn ac wedi dewis aros ar gontract oriau heb eu gwarantu, y cyfnod o dri mis o ddyddiad gwneud unrhyw ddewis o’r fath.

At ddibenion y diffiniad hwn—

“y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r rheoliad hwn i rym;

“y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw’r dyddiad sy’n dod dri mis cyn y dyddiad cychwyn;

ystyr “gweithiwr gofal cartref” (“domiciliary care worker”) yw person sy’n darparu gofal a chymorth i unigolion fel rhan o wasanaeth cymorth cartref ac mae’n cynnwys person a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr ond nid yw’n cynnwys person a gymerir ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau.

(4) At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)     mae i’r termau “contract cyflogaeth”, “cyflogwr”, “cyflogai” a “cyflogaeth” yr un ystyron â “contract of employment”, “employer”, “employee” ac “employment” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 ac mae i’r termau “a gyflogir”, “cael ei gyflogi” ac “wedi ei gyflogi” yr un ystyr ag “employed” yn yr adran honno o’r Ddeddf honno;

(b)     mae i “gweithiwr” yr un ystyr â “worker” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, ac eithrio nad yw person a gymerir ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau yn weithiwr at ddiben y rheoliad hwn. Mae unrhyw gyfeiriad at gontract gweithiwr i gael ei ddehongli yn unol â hynny.

RHAN 12

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar

Gofyniad cyffredinol

43. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau a’r cyfarpar yn addas ar gyfer y gwasanaeth, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

Mangreoedd gwasanaethau llety yn unig

44.(1)(1) Nid yw’r gofynion yn y rheoliad hwn ond yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod dyluniad ffisegol, cynllun a lleoliad y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn addas i—

(a)     cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben;

(b)     diwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolion;

(c)     cefnogi unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol.

(3) Yn benodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn bodloni gofynion paragraffau (4) i (6) o’r rheoliad hwn.

(4) Rhaid i’r fangre—

(a)     bod yn hygyrch ac wedi ei goleuo, ei gwresogi a’i hawyru’n ddigonol;

(b)     bod yn ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig;

(c)     bod wedi ei dodrefnu a’i chyfarparu’n addas;

(d)     bod o adeiladwaith cadarn ac wedi ei chadw mewn cyflwr strwythurol da yn allanol ac yn fewnol;

(e)     bod wedi ei ffitio a’i haddasu yn ôl yr angen, er mwyn diwallu anghenion unigolion;

(f)      bod wedi ei threfnu fel bod y cyfarpar a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaeth wedi ei leoli’n briodol;

(g)     bod yn rhydd rhag peryglon i iechyd a diogelwch unigolion ac unrhyw bersonau eraill a all wynebu risg, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol;

(h)     bod wedi ei chynnal a’i chadw’n briodol;

(i)      bod wedi ei chadw’n lân yn unol â safon sy’n briodol at y diben y caiff ei defnyddio.

(5) Rhaid i’r fangre gael ystafelloedd gwely sydd—

(a)     yn cynnwys cyfleusterau priodol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu) sy’n meddiannu’r ystafell wely;

(b)     o faint digonol, gan roi sylw i—

                           (i)    a yw’r ystafell yn cael ei rhannu neu’n ystafell meddiannaeth sengl;

                         (ii)    y cynllun a’r dodrefn;

                       (iii)    y cyfarpar sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu);

                        (iv)    nifer y staff sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu);

(c)     yn gyfforddus ar gyfer yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell wedi ei rhannu):

(d)     yn rhoi rhyddid symud a phreifatrwydd i’r unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu).

(6) Rhaid i’r fangre gael lle eistedd, hamdden a bwyta a ddarperir ar wahân i ystafelloedd preifat yr unigolyn ei hun a rhaid i unrhyw le o’r fath fod—

(a)     yn addas ac yn ddigonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben;

(b)     wedi ei lleoli er mwyn galluogi pob person sy’n defnyddio’r lle i gael mynediad iddo yn hawdd ac yn ddiogel.

(7) Rhaid i unrhyw le cymunedol a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth fod yn addas ar gyfer darparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol sy’n briodol i amgylchiadau’r unigolion.

(8) Rhaid i gyfleusterau addas gael eu darparu er mwyn i unigolion gwrdd ag ymwelwyr yn breifat mewn lle sydd ar wahân i ystafelloedd preifat yr unigolyn ei hun.

(9) Rhaid i’r fangre gael toiledau, ystafelloedd ymolchi a chawodydd sydd—

(a)     o nifer digonol ac o fath addas i ddiwallu anghenion yr unigolion;

(b)     wedi eu cyfarparu’n briodol;

(c)     wedi eu lleoli er mwyn galluogi pob person i gael mynediad iddynt yn hawdd ac yn ddiogel.

(10) Rhaid i’r fangre gael tiroedd allanol sy’n hygyrch ac sy’n addas ac sy’n ddiogel i unigolion eu defnyddio a rhaid iddynt gael eu cynnal a’u cadw’n briodol.

(11) Rhaid i’r fangre gael cyfleusterau addas ar gyfer staff y mae rhaid iddynt gynnwys—

(a)     cyfleusterau storio addas, a

(b)     pan fo’n briodol, llety cysgu a chyfleusterau newid addas.

Ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir – oedolion

45.(1)(1) Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cartref gofal sy’n cynnwys darparu llety i unigolion sy’n oedolion, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob oedolyn yn cael ei letya mewn ystafelloedd sengl. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys naill ai—

(a)     os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, neu

(b)     os yw paragraff (3) yn gymwys.

(2) Yr amodau yw—

(a)     bod oedolyn yn cytuno i rannu ystafell ag oedolyn arall;

(b)     bod rhannu ystafell yn gyson â llesiant y ddau oedolyn;

(c)     bod cynlluniau personol y ddau oedolyn wedi cael eu hadolygu a’u diwygio yn ôl yr angen;

(d)     nad yw nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir yn fwy na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya gan y gwasanaeth.

(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

(a)     roedd y gwasanaeth cartref gofal wedi ei gofrestru fel cartref gofal o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000;

(b)     roedd nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir ar yr adeg berthnasol yn fwy na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya gan y gwasanaeth ar yr adeg berthnasol;

(c)     roedd yr holl oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir yn rhannu ystafell ag oedolyn arall ar yr adeg berthnasol.

(4) Ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwn, ystyr “yr adeg berthnasol” yw’r adeg yr oedd y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf yn ddarparwr y gwasanaeth cartref gofal.

Ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir – plant

46.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu—

(a)     gwasanaeth cartref gofal sy’n cynnwys darparu llety i unigolion sy’n blant, neu

(b)     gwasanaeth llety diogel.

(2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob plentyn yn cael ei letya mewn ystafell sengl. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni.

(3) Yr amodau yw—

(a)     bod y llety yn cael ei ddarparu mewn gwasanaeth cartref gofal a oedd wedi ei gofrestru fel cartref plant o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000,

(b)     bod y llety a ddarperir wedi ei feddiannu ar yr adeg yr oedd y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf,

(c)     bod y plentyn yn rhannu ystafell â dim mwy nag un plentyn arall,

(d)     (ac eithrio yn achos brodyr neu chwiorydd) nad yw’r plentyn arall o’r rhyw arall neu o oedran sylweddol gwahanol iddo, ac

(e)     y bydd rhannu ystafell yn hybu llesiant y plentyn, y darperir ar ei gyfer yng nghynllun gofal a chymorth y plentyn ac y cytunir arno pryd bynnag y bo’n ymarferol â’r plentyn.

Mangreoedd – pob gwasanaeth

47. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan y fangre a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r gwasanaeth gyfleusterau digonol ar gyfer—

(a)     goruchwylio staff;

(b)     storio cofnodion yn ddiogel.

Cyfleusterau a chyfarpar

48. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y cyfleusterau a’r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth—

(a)     yn addas ac yn ddiogel at y diben y bwriedir iddynt gael eu defnyddio;

(b)     yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel;

(c)     wedi eu cynnal a’u cadw’n briodol;

(d)     wedi eu cadw’n lân yn unol â safon sy’n briodol at y diben y cânt eu defnyddio;

(e)     wedi eu storio’n briodol.

RHAN 13

Gofynion ychwanegol ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â mangreoedd – llety newydd

Cymhwyso Rhan 13

49.(1)(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth llety a bod y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn dod o fewn un o’r categorïau ym mharagraff (2). Ond nid yw’r Rhan hon yn gymwys os yw’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i bedwar neu lai o unigolion.

(2) Y categorïau yw—

Categori A: Mae’r fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn adeilad newydd neu adeilad presennol sydd wedi cael ei addasu at ddiben darparu’r gwasanaeth, ac, yn y naill achos neu’r llall, nad yw’r adeilad wedi cael ei ddefnyddio o’r blaen at ddiben darparu gwasanaeth llety.

Categori B: Mae’r fangre yn estyniad i adeilad sy’n cael ei ddefnyddio at ddiben darparu’r gwasanaeth mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth.

Categori C: Mae’r fangre yn adeilad a oedd heb ei feddiannu yn union cyn cofrestriad y darparwr gwasanaeth ond a oedd yn cael ei ddefnyddio o’r blaen at ddiben darparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad darparwr gwasanaeth arall.

(3) Os yw’r Rhan hon yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y cydymffurfir â gofynion rheoliadau 50 i 54.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwasanaeth llety” yw gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd.

Gofynion ychwanegol – ystafelloedd ymolchi en-suite

50. Rhaid i bob ystafell wely a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth gael ystafell ymolchi en-suite sy’n cynnwys basn golchi dwylo, toiled a chawod hygyrch.

Gofynion ychwanegol – maint ystafelloedd

51.(1)(1) Rhaid i bob ystafell a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth gael o leiaf 12 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio oni bai bod paragraff (2) neu (3) yn gymwys.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo rhaid i’r person sy’n byw yn yr ystafell ddefnyddio cadair olwyn yn barhaol ac yn gyson oherwydd natur ei anabledd.

(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ystafell wely yn cael ei rhannu.

(4) Os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i’r ystafell wely gael o leiaf 13.5 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio.

(5) Os yw paragraff (3) yn gymwys, rhaid i’r ystafell wely gael o leiaf 16 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio.

Gofynion ychwanegol – lle cymunedol

52. Rhaid i’r lle eistedd, hamdden a bwyta a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn unol â rheoliad 44(6) fod o leiaf—

(a)     4.1 metr sgwâr ar gyfer pob unigolyn;

(b)     5.1 metr sgwâr ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn.

Gofynion ychwanegol – lle yn yr awyr agored

53. Rhaid i’r tiroedd allanol a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn unol â rheoliad 44(10)—

(a)     bod yn hygyrch i unigolion sy’n defnyddio cadair olwyn neu sydd â phroblemau symudedd eraill,

(b)     bod â digon o seddi addas, ac

(c)     wedi eu dylunio i ddiwallu anghenion pob unigolyn gan gynnwys y rhai sydd â namau corfforol, synhwyraidd a gwybyddol.

Gofynion ychwanegol – lifft i deithwyr

54. Pan fo’r llety a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth ar fwy nag un llawr a bod hyn yn gyson â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth, rhaid i lifft i deithwyr fod ar gael.

RHAN 14

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran cyflenwadau, hylendid, iechyd a diogelwch a meddyginiaethau

Cyflenwadau

55. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cyflenwadau ar gael o nifer digonol ac o fath addas i gyflenwi’r gwasanaeth yn effeithiol ac i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolion.

Hylendid a rheoli heintiau

56.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau—

(a)     safonau hylendid boddhaol wrth gyflenwi’r gwasanaeth;

(b)     bod gwastraff cyffredinol a chlinigol yn cael ei waredu’n briodol.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer rheoli heintiau a lleihau heintiau rhag lledaenu a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisïau hyn a’r gweithdrefnau hyn.

Iechyd a diogelwch

57. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw risgiau i iechyd a diogelwch unigolion yn cael eu nodi a’u lleihau i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol.

Meddyginiaethau

58.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod meddyginiaethau yn cael eu storio a’u gweinyddu’n ddiogel.

(2) Rhaid i’r trefniadau hyn gynnwys y trefniadau ar gyfer—

(a)     cynnal cyflenwad digonol o feddyginiaethau;

(b)     archebu, ailarchebu, cofnodi, trin a gwaredu meddyginiaethau yn effeithiol;

(c)     archwilio storio a gweinyddu meddyginiaethau yn rheolaidd.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle mewn perthynas â storio a gweinyddu meddyginiaethau yn ddiogel a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisi hwn a’r gweithdrefnau hyn.

RHAN 15

Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau

Cofnodion

59.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw a chynnal y cofnodion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 mewn cysylltiad â phob man y darperir y gwasanaeth ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

(2) Pan fo’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hefyd gadw a chynnal y cofnodion a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2 mewn cysylltiad â phob man y darperir y gwasanaeth hwnnw ynddo.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     sicrhau bod cofnodion sy’n ymwneud ag unigolion yn gywir ac yn gyfredol;

(b)     cadw pob cofnod yn ddiogel;

(c)     gwneud trefniadau er mwyn i’r cofnodion barhau i gael eu cadw’n ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau;

(d)     yn achos cofnodion am blentyn sy’n cael ei letya mewn gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant, sicrhau bod y cofnodion yn cael eu dosbarthu i’r awdurdod lleoli pan fo’r gwasanaeth yn peidio â chael ei ddarparu mewn cysylltiad â’r plentyn y mae’r cofnodion yn ymwneud ag ef;

(e)     gwneud y cofnodion ar gael i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ar gais;

(f)      cadw cofnodion sy’n ymwneud ag oedolion am dair blynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;

(g)     cadw cofnodion sy’n ymwneud â phlant am bymtheng mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf, oni bai bod y cofnodion yn cael eu dychwelyd i’r awdurdod lleoli yn unol ag is-baragraff (d);

(h)     sicrhau bod unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth—

                           (i)    yn gallu cael mynediad i’w cofnodion; a

                         (ii)    yn cael eu gwneud yn ymwybodol eu bod yn gallu cael mynediad i’w cofnodion.

Hysbysiadau

60.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3.

(2) Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cartref gofal i blant, rhaid i’r darparwr—

(a)     hysbysu’r awdurdod lleoli am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3;

(b)     hysbysu’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r cartref ynddi am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 3;

(c)     hysbysu’r swyddog heddlu priodol am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 3;

(d)     hysbysu’r bwrdd iechyd y mae’r cartref yn ei ardal am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 3.

(3) Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraffau (1) a (2) gynnwys manylion y digwyddiad.

(4) Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.

(5) Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.

 

Hysbysu mewn cysylltiad â phlant sy’n cael eu derbyn i fan, neu ei ryddhau o fan, y darperir llety i blant ynddo

 

61.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu—

(a)     gwasanaeth cartref gofal sy’n darparu llety i blant (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “gwasanaeth cartref gofal i blant”), neu

(b)     gwasanaeth llety diogel.

(2) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at “y llety” yn gyfeiriadau at y man y mae gwasanaeth cartref gofal i blant neu wasanaeth llety diogel wedi ei ddarparu ynddo.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu, yn ddi-oed, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r llety ynddi, am bob plentyn sy’n cael ei dderbyn i’r llety ac am bob plentyn sy’n cael ei ryddhau o’r llety.

(4) Nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r awdurdod lleol ym mharagraff (3) os yr awdurdod lleol hwnnw yw’r awdurdod lleoli ar gyfer y plentyn o dan sylw hefyd.

(5) Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo ddatgan—

(a)     enw a dyddiad geni’r plentyn;

(b)     a yw llety wedi ei ddarparu i’r plentyn o dan adran 76 neu 77 o Ddeddf 2014 neu, yn achos plentyn a leolir gan awdurdod lleol yn Lloegr, a yw llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn o dan adran 20 neu 21 o Ddeddf Plant 1989;

(c)     a yw’r plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal neu orchymyn goruchwylio o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989;

(d)     manylion cyswllt—

                           (i)    awdurdod lleoli’r plentyn; a

                         (ii)    y swyddog adolygu annibynnol a benodir ar gyfer achos y plentyn; ac

(e)     a oes gan y plentyn ddatganiad anghenion addysgol arbennig neu gynllun addysg, iechyd a gofal ac, os felly, fanylion yr awdurdod lleol a chanddo gyfrifoldeb am gynnal y datganiad anghenion addysgol arbennig neu’r cynllun addysg, iechyd a gofal.

(6) Yn y rheoliad hwn, mae i “cynllun addysg, iechyd a gofal” yr ystyr a roddir i “EHC plan” yn adran 37(2) (cynlluniau addysg, iechyd a gofal) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014([22]).

Hysbysu mewn cysylltiad â marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya mewn cartref diogel i blant

62.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo plentyn y darperir gwasanaeth llety diogel([23]) iddo yn marw.

(2) Mae unrhyw ofynion a osodir gan y rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth y gwasanaeth llety diogel a oedd yn darparu llety i’r plentyn ar adeg ei farwolaeth.

(3) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth yn ddi-oed hysbysu—

(a)     swyddfa briodol y rheoleiddiwr gwasanaethau;

(b)     yr awdurdod lleoli;

(c)     yr awdurdod lleol y mae’r gwasanaeth llety diogel yn ei ardal;

(d)     y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r gwasanaeth llety diogel yn ei ardal;

(e)     Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth Cymru a Lloegr (“yr OCPh”); ac

(f)      rhiant y plentyn neu’r person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ganiatáu i’r OCPh ymchwilio i’r farwolaeth drwy—

(a)     rhoi i’r OCPh fynediad i—

                           (i)    mangre’r gwasanaeth; a

                         (ii)    dogfennau a chofnodion y gwasanaeth;

(b)     caniatáu i’r OCPh fynd â chopïau, o’r fangre, o unrhyw ddogfennau neu gofnodion y ceir mynediad iddynt o dan is-baragraff (a)(ii) ar yr amod bod gan yr OCPh drefniadau diogel ar gyfer gwneud hynny; ac

(c)     os byddant yn cydsynio, ganiatáu i’r OCPh gyf-weld yn breifat ag unrhyw blant, rhieni (neu bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant) neu berthnasau, neu bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth.

(5) Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn—

(a)     cynnwys manylion—

                           (i)    amgylchiadau’r farwolaeth;

                         (ii)    y personau, y cyrff neu’r sefydliadau eraill (os oes rhai) y mae’r darparwr gwasanaeth wedi eu hysbysu neu’n bwriadu eu hysbysu; a

                       (iii)    unrhyw gamau gweithredu y mae’r darparwr gwasanaeth wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd o ganlyniad i’r farwolaeth;

(b)     cael ei wneud neu ei gadarnhau yn ysgrifenedig.

(6) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at yr OCPh yn cynnwys person sydd wedi ei benodi gan, neu sy’n gweithio ar ran, yr OCPh at ddibenion ymchwiliad o dan baragraff (2).

Gwrthdaro buddiannau (gan gynnwys gwaharddiadau)

63.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle i nodi, cofnodi a rheoli achosion posibl o wrthdaro buddiannau.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau nad yw person a chanddo fuddiant ariannol ym mherchnogaeth gwasanaeth cartref gofal yn gweithredu fel ymarferydd meddygol ar gyfer unrhyw unigolyn y darperir y gwasanaeth hwnnw ar ei gyfer.

Polisi a gweithdrefn gwyno

64.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol â’r polisi hwnnw.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion gan gynnwys trefniadau ar gyfer—

(a)     nodi cwynion ac ymchwilio iddynt;

(b)     rhoi ymateb priodol i berson sy’n gwneud cwyn, os yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r person hwnnw;

(c)     sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad;

(d)     cadw cofnodion sy’n ymwneud â’r materion yn is-baragraffau (a) i (c).

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion a chamau gweithredu dilynol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     dadansoddi gwybodaeth sy’n ymwneud â chwynion a phryderon; a

(b)     rhoi sylw i’r dadansoddiad hwnnw, gan nodi unrhyw feysydd i’w gwella.

Chwythu’r chwiban

65.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod pob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am faterion a all effeithio’n andwyol ar iechyd, diogelwch neu lesiant unigolion y darperir y gwasanaeth ar eu cyfer.

(2) Rhaid i’r trefniadau hyn gynnwys—

(a)     cael polisi chwythu’r chwiban yn ei le a gweithredu yn unol â’r polisi hwnnw, a

(b)     sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath.

(3) Rhaid i’r darparwr sicrhau bod y trefniadau sy’n ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

(4) Pan godir pryder, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau—

(a)     yr ymchwilir i’r pryder;

(b)     y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad;

(c)     y cedwir cofnod o’r ddau bwynt uchod.

RHAN 16

Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol

Goruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth

66. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth, sy’n cynnwys cymryd y camau a ddisgrifir yn rheoliadau 64, 72 a 73.

Dyletswydd i benodi rheolwr

67.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.

(2) Yr amodau yw—

(a)     bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn;

(b)     bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth;

(c)     bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth;

(d)     bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru; ac

(e)     bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.

(3) Yr amodau yw—

(a)     bod y darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforaethol neu’n gorff anghorfforedig;

(b)     bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd mewn dim mwy na dau leoliad neu ei fod wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref mewn perthynas â dim mwy na dwy ardal;

(c)     bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth i gael ei benodi i reoli’r gwasanaeth;

(d)     bod yr unigolyn hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth;

(e)     bod yr unigolyn hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru; ac

(f)      bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r unigolyn hwnnw reoli’r gwasanaeth.

(4) At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 34(2) (addasrwydd staff) yn cael eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.

(5) Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.

Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr

68.(1)(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 35(2) (addasrwydd staff) yn cael eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

 

Cyfyngiadau ar benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth

69.(1)(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli mwy nag un gwasanaeth, oni bai bod paragraff (2) yn gymwys.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os—

(a)     yw’r darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i’r rheoleiddiwr gwasanaethau i gael caniatâd i benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth, a

(b)     yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau wedi ei fodloni o ran y trefniadau rheoli arfaethedig—

                           (i)    na fyddant yn cael effaith andwyol ar iechyd neu lesiant unigolion, a

                         (ii)    y byddant yn darparu goruchwyliaeth ddibynadwy ac effeithiol o bob gwasanaeth.

Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i’r darparwr gwasanaeth

70. Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 67(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i’r darparwr gwasanaeth o—

(a)     enw’r person a benodir, a

(b)     y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i reoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethau

71.(1)(1) Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 67(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i reoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethau o—

(a)     enw, dyddiad geni a rhif cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru y person a benodir, a

(b)     y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

(2) Mewn achos pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn a bod y rheoleiddiwr gwasanaethau wedi cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad i reoleiddiwr y gweithlu o—

(a)     enw, dyddiad geni a rhif cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru y darparwr gwasanaeth, a

(b)     y dyddiad y mae’r darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth ohono.

Y trefniadau pan fydd rheolwr yn absennol

72.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr neu pan nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth.

(2) Os nad oes rheolwr neu os nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

(a)     hysbysu’r darparwr gwasanaeth a’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a

(b)     rhoi gwybod iddynt am y trefniadau sydd wedi eu rhoi yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.

Ymweliadau

73.(1)(1) Yn achos gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd([24]), rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

(a)     ymweld â phob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, a

(b)     cwrdd â staff ac unigolion ym mhob man o’r fath.

(2) Yn achos unrhyw wasanaethau rheoleiddiedig eraill([25]), rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

(a)     cwrdd ag aelodau o staff sydd wedi eu cyflogi i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig ym mhob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, ohono neu mewn perthynas ag ef, a

(b)     cwrdd ag unigolion y mae gwasanaeth rheoleiddiedig yn cael ei ddarparu ym mhob man o’r fath, ohono neu mewn perthynas ag ef.

(3) Mae amlder ymweliadau a chyfarfodydd o’r fath i gael ei benderfynu gan yr unigolyn cyfrifol gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ond rhaid iddynt gael eu cynnal o leiaf bob tri mis.

RHAN 17

Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol

Goruchwylio digonolrwydd adnoddau

74.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd i’r darparwr gwasanaeth am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau yn Rhannau 3 i 15 o’r Rheoliadau hyn.

(2) Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.

(3) Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth

75.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol, yn ddi-oed, adrodd i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     am unrhyw bryderon ynghylch rheoli neu ddarparu’r gwasanaeth;

(b)     am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu;

(c)     am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

(2) Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Ymgysylltu ag unigolion ac eraill

76.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—

(a)     yr unigolion sy’n cael gofal a chymorth,

(b)     unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny,

(c)     yn achos plentyn y darperir llety iddo, yr awdurdod lleoli,

(d)     comisiynwyr gwasanaethau, ac

(e)     staff sy’n cael eu cyflogi yn y gwasanaeth,

ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir a sut y gellir gwella hyn.

(2) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd am y safbwyntiau a geir i’r darparwr gwasanaeth er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

 

RHAN 18

Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynion

77. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle i gofnodi digwyddiadau, cwynion a materion y mae rhaid gwneud hysbysiadau yn eu cylch yn unol â rheoliadau 60 i 62 a 84.

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle ar gyfer cadw cofnodion

78. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle mewn perthynas â chadw cofnodion, sy’n cynnwys systemau ar gyfer sicrhau bod cofnodion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cadw gan reoliad 59 yn gywir ac yn gyflawn.

Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredol

79. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth yn cael eu cadw’n gyfredol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

RHAN 19

Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth rheoleiddiedig

Adolygiad o ansawdd y gofal

80.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

(2) Rhaid i’r system a sefydlir o dan baragraff (1) wneud darpariaeth i ansawdd y gofal a’r cymorth gael ei adolygu mor aml ag sy’n ofynnol ond o leiaf bob chwe mis.

(3) Fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir, rhaid i’r unigolyn cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer—

(a)     ystyried canlyniad yr ymgysylltiad ag unigolion ac eraill, fel sy’n ofynnol gan reoliad 76;

(b)     dadansoddi’r data cyfanredol ar ddigwyddiadau, digwyddiadau hysbysadwy, materion diogelu, chwythu’r chwiban, pryderon a chwynion;

(c)     adolygu unrhyw gamau gweithredu a gymerir mewn perthynas â chwynion;

(d)     ystyried canlyniad unrhyw archwiliad o gywirdeb a chyflawnrwydd cofnodion.

(4) Ar ôl cwblhau adolygiad o ansawdd y gofal a’r cymorth yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio adroddiad i’r darparwr gwasanaeth y mae rhaid iddo gynnwys—

(a)     asesiad o safon y gofal a’r cymorth a ddarperir, a

(b)     argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth.

(5) Ond nid yw’r gofyniad ym mharagraff (4) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Datganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth

81.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio’r datganiad y mae’n ofynnol iddo gael ei gynnwys yn y datganiad blynyddol o dan adran 10(2)(b) o’r Ddeddf, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r man neu’r mannau y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef neu â hwy.

(2) Wrth lunio’r datganiad, rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi sylw i’r asesiad o safon y gofal a’r cymorth a gynhwysir mewn adroddiad a lunnir yn unol â rheoliad 80(4).

RHAN 20

Gofynion eraill ar unigolion cyfrifol

Cymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderon

82. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi unrhyw bryderon yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

Dyletswydd gonestrwydd

83. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol weithredu mewn ffordd agored a thryloyw—

(a)     ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth;

(b)     ag unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny;

(c)     yn achos plentyn y darperir llety iddo, â’r awdurdod lleoli.

 

Hysbysiadau

84.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen 4.

(2) Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.

(3) Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.

(4) Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.

RHAN 21

Troseddau

Troseddau – darparwyr gwasanaethau

85.(1)(1) Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)([26]).

(2) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau 7(3), 7(5), 11(3), 12(1), 12(2), 19(1), 19(2), 19(3), 20(1), 35(1), 38(1), 59(1), 59(2), 59(3), 60(1), 60(2), 60(4), 61(3) a 62(3).

(3) Mae darparwr gwasanaeth yn cyflawni trosedd os yw’r darparwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (4) a bod methiant o’r fath yn arwain at—

(a)     niwed y gellir ei osgoi (pa un ai o natur gorfforol neu seicolegol) i unigolyn,

(b)     unigolyn yn cael ei wneud yn agored i risg sylweddol o niwed o’r fath, neu

(c)     yn achos dwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi arian neu eiddo, unrhyw golled gan unigolyn o’r arian neu’r eiddo o dan sylw.

(4) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (3) yw darpariaethau rheoliadau 6, 7(1), 12(5), 14(1), 14(3), 15(1), 15(3), 15(5), 16(1), 16(5), 18(1), 18(6), 18(7), 21(1), 21(2), 22, 26, 33(1), 34(1), 34(2) a 34(3).

Troseddau – unigolion cyfrifol

86.(1)(1) Mae’n drosedd i’r unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)([27]).

(2) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau 67(1), 68(1), 71(1), 71(2), 73(1), 73(2), 73(3), 74(1), 74(2), 75(1), 80(4), 81(1), 84(1) a 84(3).

RHAN 22

Darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod etc. neu sydd wedi marw

Penodi datodwyr etc.

87.(1)(1) Rhaid i berson a benodir—

(a)     yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’i benodiad a’r rhesymau dros ei benodi;

(b)     o fewn 28 o ddiwrnodau i’w benodi, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’i fwriadau ynglŷn â gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

(2) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “y gwasanaeth” (“the service”) yw’r gwasanaeth neu’r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth y mae’r penodiad yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru i’w ddarparu neu eu darparu;

mae i “person a benodir” (“appointed person”) yr un ystyr ag yn adran 30 o’r Ddeddf.

Marwolaeth darparwr gwasanaeth

88.(1)(1) Pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw, rhaid i gynrychiolwyr personol yr unigolyn—

(a)     yn ddi-oed, rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau;

(b)     o fewn 28 o ddiwrnodau i’r farwolaeth, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’u bwriadau ynglŷn â gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

(2) Caiff cynrychiolwyr personol yr unigolyn weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau neu am gyfnod hwy (nad yw’n hwy nag un flwyddyn) y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno.

(3) Pan fo’r cynrychiolwyr personol yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth yn unol â pharagraff (2), mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)     nid yw adran 5 (gofyniad i gofrestru) yn gymwys;

(b)     yn adran 21(2) (unigolion cyfrifol) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)  pan fo cynrychiolwyr personol darparwr gwasanaeth sydd wedi marw yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth, fod yn un o’r cynrychiolwyr personol;.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gwasanaeth” yw’r gwasanaeth neu’r gwasanaethau rheoleiddiedig yr oedd y darparwr gwasanaeth sydd wedi marw wedi ei gofrestru i’w ddarparu neu eu darparu ar adeg ei farwolaeth.

RHAN 23

Rheoliadau o dan adran 21(5) o’r Ddeddf

Dynodiad unigolyn cyfrifol gan Weinidogion Cymru

89. Caiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol, er nad yw gofynion adran 21(2) o’r Ddeddf wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn, o dan yr amgylchiadau a ganlyn—

(a)     bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn sydd wedi marw ac mae cynrychiolwyr personol y darparwr gwasanaeth wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau nad ydynt yn bwriadu gwneud cais o dan adran 11(1)(c) o’r Ddeddf;

(b)     bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn ac wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau—

                           (i)    na all gydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach, a

                         (ii)    y rhesymau dros hyn;

(c)     bod y darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth ac wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau—

                           (i)    nad yw’r unigolyn sydd wedi ei ddynodi gan y darparwr gwasanaeth fel yr unigolyn cyfrifol yn gallu cydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach,

                         (ii)    y rhesymau dros hyn, a

                       (iii)    nad oes unrhyw unigolyn arall sy’n gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol ac sy’n gallu cydymffurfio â dyletswyddau unigolyn cyfrifol.

 

 

 

 

 

 

 

 

Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o

dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

                    ATODLEN 1       Rheoliad 35

RHAN 1

Gwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig

1. Prawf o bwy yw’r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

2. Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997([28]), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys([29]) a ddyroddir o dan adran 113A o’r Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan fo’n gymwys, â’r wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

3. Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys([30]) a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â’r wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).

4. Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diweddaraf, os oes un.

5. Pan fo person wedi gweithio’n flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o’r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu’r swydd i ben.

6. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

7. Pan fo’n berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.

8. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

9. Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu gofal a chymorth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr i ddarparu gofal a chymorth ar eu cyfer.

10. Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff o’r fath.

RHAN 2

Dehongli Rhan 1

11. At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—

(a)     os nad yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—

                           (i)    os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 34(3) neu (6), a

                         (ii)    os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers i’r dystysgrif gael ei dyroddi;

(b)     os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.

                    ATODLEN 2       Rheoliad 59

Cofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau rheoleiddiedig

RHAN 1

Cofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig

1. Mewn cysylltiad â phob unigolyn, cofnodion—

(a)     o bob asesiad perthnasol;

(b)     o gynlluniau personol;

(c)     o adolygiadau o gynlluniau personol;

(d)     o gynlluniau gofal a chymorth;

(e)     o adolygiadau o gynlluniau gofal a chymorth;

(f)      o’r gofal a ddarperir; gan gynnwys cofnodion dyddiol neu gofnodion o ymyriadau gofal penodol;

(g)     o ohebiaeth, adroddiadau a chofnodion mewn perthynas â chymorth ychwanegol a ddarperir gan wasanaethau addysg, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau perthynol eraill.

2. Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am y ddarpariaeth o ofal a chymorth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.

3. Cofnod o’r holl feddyginiaethau a gedwir yn y gwasanaeth ar gyfer pob unigolyn a’r dyddiad a’r amser y rhoddwyd y meddyginiaethau hynny i’r unigolyn.

4. Cofnod o’r holl arian neu bethau gwerthfawr eraill a roddwyd gan yr unigolyn i’w cadw’n ddiogel neu a gafwyd ar ran yr unigolyn, y mae rhaid iddo gynnwys cofnod o’r canlynol—

(a)     y dyddiad pan roddwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr i’w cadw neu pan gafwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;

(b)     y dyddiad pan gafodd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr—

                           (i)    eu dychwelyd at yr unigolyn, neu

                         (ii)    eu defnyddio, ar gais yr unigolyn, ar ei ran;

(c)     pan fo’n gymwys, at ba ddiben y defnyddiwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;

(d)     cydnabyddiaeth ysgrifenedig bod yr arian neu’r pethau gwerthfawr wedi eu dychwelyd.

5. Cofnod o’r digwyddiadau a ganlyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth—

(a)     unrhyw ddamwain, anaf, neu salwch difrifol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol ar lesiant unigolyn;

(b)     achos o glefyd heintus yn y gwasanaeth;

(c)     unrhyw achos o ddwyn neu fwrgleriaeth;

(d)     unrhyw atgyfeiriad diogelu a wneir mewn cysylltiad ag unigolyn;

(e)     achosion o gwympo a thriniaeth ganlyniadol a ddarperir i unigolyn;

(f)      achosion o wlserau pwyso a thriniaeth ganlyniadol a ddarperir i unigolyn;

(g)     dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheolaeth, atal neu ddisgyblu a ddefnyddir ar unigolyn.

6. Cofnod o bob ymarfer tân, dril tân neu brawf cyfarpar tân (gan gynnwys cyfarpar larwm tân) a gynhelir yn y gwasanaeth ac o unrhyw gamau gweithredu a gymerir i unioni diffygion yn y cyfarpar tân.

7. Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.

8. Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—

(a)     enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni, cymwysterau a phrofiad y person;

(b)     copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person;

(c)     copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person;

(d)     y dyddiadau y mae’r person yn dechrau gweithio ac yn peidio â bod wedi ei gyflogi felly;

(e)     y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’n ei wneud a nifer yr oriau y mae wedi ei gyflogi bob wythnos;

(f)      cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person;

(g)     cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.

9. Copi o restr ddyletswyddau’r personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a chofnod o ran a oedd y rhestr yn gweithio yn ôl yr hyn a fwriadwyd mewn gwirionedd.

RHAN 2

Cofnodion ychwanegol sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd

10. Cofnod o unrhyw ddodrefn y mae unigolyn yn dod â hwy i’r ystafell y mae’n ei meddiannu.

11. Cofnod o unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau a ganlyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth—

(a)     unrhyw dân;

(b)     absenoldeb heb esboniad neu absenoldeb anawdurdodedig;

(c)     marwolaeth unigolyn.

12. Cofnod o’r holl ymwelwyr â’r gwasanaeth, gan gynnwys enwau ymwelwyr a’r personau y maent yn ymweld â hwy.

                    ATODLEN 3       Rheoliad 60

Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth

RHAN 1

Hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau mewn cysylltiad â phob gwasanaeth

1. Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.

2. Y darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.

3. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwmni, unrhyw newid i gyfarwyddwyr y cwmni.

4. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.

5. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno.

6. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.

7. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.

8. Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

9. Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.

10. Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.

11. Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol..

12. Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol ar gyfer y gwasanaeth.

13. Unrhyw gamdriniaeth neu honiad o gamdriniaeth mewn perthynas ag unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth a/neu aelod o staff.

14. Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.

15. Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.

16. Unrhyw wlser pwyso categori 3 neu 4, wlser pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam neu anaf dwfn i feinwe.

17. Bod unigolyn yn cael damwain, anaf neu salwch difrifol.

18. Achos o unrhyw glefyd heintus.

19. Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.

20. Unrhyw ddigwyddiadau sy’n atal, neu a allai atal, y darparwr rhag parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn ddiogel.

21. Pan fo llety wedi ei ddarparu, marwolaeth unigolyn a’r amgylchiadau.

22. Unrhyw gais i gorff goruchwylio mewn perthynas â chymhwyso’r mesurau diogelwch amddifadu o ryddid (DOLS).

23. Bod y fangre yn cael ei newid neu ei hestyn yn sylweddol neu bwriedir gwneud hynny.

24. Bod mangre ychwanegol yn cael ei chaffael neu bwriedir gwneud hynny.

25. Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.

RHAN 2

Hysbysiadau ychwanegol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau pan fo gofal a chymorth yn cael eu darparu i blant

26. Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

27. Pan fo’r darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Meini Prawf Rhagnodedig a Darpariaethau Amrywiol) 2009([31]), hysbysiad o’r drosedd a gyhuddir a’r man cyhuddo.

28. Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.

29. Unrhyw honiad bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.

30. Achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn.

31. Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.

RHAN 3

Hysbysiadau i’r awdurdod lleoli pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

32. Unrhyw gamdriniaeth neu honiad o gamdriniaeth mewn perthynas â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth sy’n ymwneud â’r darparwr neu aelod o staff.

33. Bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth yn cael damwain, anaf neu salwch difrifol.

34. Unrhyw wlser pwyso categori 3 neu 4, wlser pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam neu anaf dwfn i feinwe.

35. Achos o unrhyw glefyd heintus.

36. Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.

37. Marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth a’r amgylchiadau.

38. Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

39. Honiad bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.

40. Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.

41. Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.

42. Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn.

RHAN 4

Hysbysiadau i’r awdurdod lleol y mae’r cartref yn ei ardal pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

43. Marwolaeth plentyn a’r amgylchiadau.

44. Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn.

45. Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.

RHAN 5

Hysbysiadau i’r swyddog heddlu priodol pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

46. Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn.

RHAN 6

Hysbysiadau i’r bwrdd iechyd y mae’r cartref wedi ei leoli yn ei ardal pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

47. Achos o unrhyw glefyd heintus.

48. Marwolaeth plentyn a’r amgylchiadau.

 

                    ATODLEN 4       Rheoliad 84

Hysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol

1. Penodi rheolwr (gweler rheoliad 7(1)).

2. Absenoldeb disgwyliedig y rheolwr a benodir am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

3. Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.

4. Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.

5. Bod y rheolwr a benodir yn dychwelyd o fod yn absennol.

6. Trefniadau interim pan fo’r rheolwr yn absennol am fwy nag 28 o ddiwrnodau.

7. Bod rhywun arall ac eithrio’r rheolwr a benodir yn bwriadu rheoli neu yn rheoli’r gwasanaeth.

8. Bod y rheolwr a benodir yn peidio, neu’n bwriadu peidio, â rheoli’r gwasanaeth.

 

 

 

 



([1])   2016 dccc 2.

([2])   2010 p. 15.

([3])   1996 p. 56.

([4])   Mae rheoliad 3 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan  breswyl i deuluoedd ddarparu datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo; rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaethau lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli ddarparu datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ohono; rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth cymorth cartref ddarparu datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu mewn perthynas ag ef.

([5])   2014 dccc 4.

([6])   Mae adran 7(3)(a)(i) o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i ganiatáu cais o dan adran 6 o’r Ddeddf fod yn ddarostyngedig i amod sy’n pennu’r mannau y mae’r darparwr gwasanaethau i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy. 

([7])   1999 p. 8.

([8])   Mae “swyddogaethau rheoleiddiol” wedi eu diffinio yn adran 3(1)(b) o’r Ddeddf.

([9])   1996 p. 18.

([10]) Amnewidiwyd y diffiniad o “registered medical practitioner” yn Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) gan O.S. 2002/3135, Atodlen 1, paragraff 10 ag iddo effaith o 16 Tachwedd 2009.

([11]) 2006 p. 42.

([12]) 1984 p. 24.

([13]) 1992 p. 13.

([14]) 2010 mccc 1.

([15]) 1952 p. 52.

([16]) 1973 p. 35.

([17]) 1989 p. 41.

([18]) Mae “ysbyty” wedi ei ddiffinio ym mharagraff 9 o Atodlen 1 i’r Ddeddf ac yn cynnwys clinig annibynnol.

([19]) O.S. 2015/1818 (Cy. 261).

([20]) 2005 p. 9.

([21]) 2006 p. 47.

([22]) 2014 p. 6.

([23]) Mae gwasanaeth llety diogel yn wasanaeth rheoleiddiedig o dan y Ddeddf (gweler adran 2(1)(b) o’r Ddeddf). Mae paragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf yn diffinio “gwasanaeth llety diogel” fel y ddarpariaeth o lety at ddiben cyfyngu ar ryddid plant mewn mangreoedd preswyl yng Nghymru lle y darperir gofal a chymorth i’r plant hynny.

([24]) Gweler Atodlen 1 i’r Ddeddf i gael darpariaeth bellach ynghylch ystyr gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd.

([25]) Gweler adran 2(1) o’r Ddeddf ar gyfer y gwasanaethau sydd wedi eu cynnwys o fewn y diffiniad o “gwasanaeth rheoleiddiedig”.

([26]) Am gosbau yn dilyn euogfarn am drosedd o dan y rheoliad hwn, gweler adran 51(1) o’r Ddeddf.

([27]) Am gosbau yn dilyn euogfarn am drosedd o dan y rheoliad hwn, gweler adran 51(1) o’r Ddeddf

([28]) 1997 p. 50.

([29]) I gael ystyr “dilys”, gweler Rhan 2 o’r Atodlen hon.

([30]) I gael ystyr “dilys”, gweler Rhan 2 o’r Atodlen hon.

([31]) O.S. 2009/37.